Gwyddor Da Byw
Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs D321D-
Cymhwyster
UCert
-
Hyd y cwrs
2 flynedd
-
Dull cyflwyno
Dysgu o bell
Mae diogelu cyflenwadau bwyd yn hanfodol i lwyddiant a sefydlogrwydd unrhyw wlad a'i phoblogaeth. Mae ateb y galw cynyddol am fwyd ledled y byd ymhlith heriau pwysicaf yr 21ain ganrif. Mae Gwyddor Da Byw yn ganolog i wynebu'r her honno, yn awr ac yn y dyfodol. Mae swmp y bwyd a gynhyrchir yn bwysig, ond pwysig hefyd yw ei ansawdd, gyda chwsmeriaid yn dal i fynnu cynnyrch o ansawdd uchel am bris fforddiadwy. Yr unig ffordd y gellir ateb y galw hwnnw yw bod graddedigion sydd â chymwysterau addas yn datblygu cysyniadau a syniadau arloesol, a’u rhoi ar waith. Y graddedigion hynny hefyd fydd yn gyrru'r datblygiadau cyffrous hyn yn eu blaen ym meysydd gwyddor da byw a chynhyrchu da byw.
Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Da Byw ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu addysg ôl-raddedig o ansawdd uchel a arweinir gan ymchwil ym maes gwyddor da byw i'ch helpu i ymateb i'r heriau hyn.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Grassland Systems | BDM5120 | 20 |
Livestock Nutrition | BDM0320 | 20 |
Livestock Production Science | BDM5420 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
|