UCert

Gwyddor Da Byw

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Mai 2024

Mae diogelu cyflenwadau bwyd yn hanfodol i lwyddiant a sefydlogrwydd unrhyw wlad a'i phoblogaeth. Mae ateb y galw cynyddol am fwyd ledled y byd ymhlith heriau pwysicaf yr 21ain ganrif. Mae Gwyddor Da Byw yn ganolog i wynebu'r her honno, yn awr ac yn y dyfodol. Mae swmp y bwyd a gynhyrchir yn bwysig, ond pwysig hefyd yw ei ansawdd, gyda chwsmeriaid yn dal i fynnu cynnyrch o ansawdd uchel am bris fforddiadwy. Yr unig ffordd y gellir ateb y galw hwnnw yw bod graddedigion sydd â chymwysterau addas yn datblygu cysyniadau a syniadau arloesol, a’u rhoi ar waith. Y graddedigion hynny hefyd fydd yn gyrru'r datblygiadau cyffrous hyn yn eu blaen ym meysydd gwyddor da byw a chynhyrchu da byw.

Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Da Byw ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu addysg ôl-raddedig o ansawdd uchel a arweinir gan ymchwil ym maes gwyddor da byw i'ch helpu i ymateb i'r heriau hyn.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad BSc honours degree (2:2) in a related subject at undergraduate level OR 2 years relevant experience working in the sector

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Da Byw yn rhoi i chi brofiad o addysg ôl-raddedig o ansawdd uchel ym meysydd maeth da byw a chynhyrchu da byw, yn ogystal â gwyddor glastir. Dysgir y cwrs hwn gan wyddonwyr blaenllaw yn eu meysydd, a byddwch yn dysgu am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf yn y tri maes creiddiol hyn o ymchwil i dda byw ac anifeiliaid. Mae’r lefel uwch o wybodaeth am y pwnc a’r cymhwyster ei hun wedi’u cydnabod yn eang gan broffesiynau gwyddor da byw/anifeiliaid a ffermio.

Mae'r rhaglen ar-lein ddysgu-o-bell hon wedi'i chynllunio i gyd-fynd yn gyfleus â'ch gofynion chi o ran eich gwaith a’ch bywyd. Byddai'r cwrs yn addas i bobl sydd am symud i faes anifeiliaid/da byw neu am ddiweddaru eu gwybodaeth ac ennill cymwysterau pellach.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

2 blynedd o ddysgu o bell

Dyddiad cychwyn:

Medi, Ionawr neu Mai

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Mai - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20

Modiwlau Dechrau Mai - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd ym meysydd ymchwil wyddonol, argraffu gwyddonol, gwaith labordy, maetheg anifeiliaid, lles anifeiliaid, dysgu, bridio anifeiliaid a gwerthiant technegol.

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i fod mor hygyrch a hyblyg â phosib, yn enwedig i'r rhai sydd mewn gwaith llawn-amser neu sy'n byw y tu allan i Brydain. Os oes gennych gyswllt â'r rhyngrwyd gallwch astudio lle bynnag a phryd bynnag sy'n gyfleus i chi, sy’n golygu y gallwch ddiweddaru’ch gwybodaeth a datblygu’ch sgiliau beirniadol.

Derbynnir myfyrwyr dair gwaith y flwyddyn, sy’n golygu y cewch ddechrau yn Ionawr, Mai neu Fedi. Mae pob modiwl 14-wythnos yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio gan academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant (lle bo'n bosib), ynghyd â darlleniadau dan arweiniad, fforymau trafod ac aseiniadau ysgrifenedig.

Byddwch yn cwblhau tri modiwl 20-credyd er mwyn ennill y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Da Byw.

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio modiwlau ar wyddoniaeth cynhyrchu da byw, maeth da byw a gwyddor glaswelltir.

Sut y caf fy asesu?

Nid oes arholiadau yn y rhaglen hon. Asesir y modiwlau a ddysgir drwy aseiniadau ysgrifenedig (astudiaethau achos, cynigion ymchwil, beirniadaethau ymchwil, traethodau ac adroddiadau).

|