MA

Cynhyrchu Ffilm

Mae rôl y cynhyrchydd yn un sy'n ymwneud â busnes, ac mae'r MA Cynhyrchu Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar yr union fater hwnnw.

Byddwch yn dysgu sut mae'r rôl yn gofyn am set o sgiliau integredig i hwyluso ymgysylltu â'r holl agweddau ar y broses creu ffilmiau. Mae crynhoi ystod o sgiliau amrywiol yn y modd hwn yn galluogi'r cynhyrchydd i weithredu'n effeithiol ac yn gyfrifol yn ei rôl fel y sawl sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol. Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn deall strwythur sgript, sut mae'r sgript honno'n fyw ac, yn bwysicaf oll, sut y gellir ei hariannu a'i rhaglennu.

Addysgir mwyafrif y modiwlau gan staff academaidd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Addysgir yr un modiwl sy'n ymwneud â busnes - 'Financial Analysis and Decision Making' - gan staff academaidd Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience/professional practice.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch gylle i fwynhau cwrs Meistr a fydd yn eich ysgogi ac yn eich helpu i ddeall holl agweddau ar gynhyrch ffilmiau ac yn eich galluogi i wneud penderfyniadau allweddol ar sail gwybodaeth am werth a chost - rhywbeth sy'n hanfodol i lwyddiant ariannol unrhyw ffilm.
  • Cewch ddysgu gan arbenigwyr sy'n arwain yn y diwydiant. Byddwn yn gwahodd gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant i gynnal dosbarthiadau meistr yn yr adran, gan roi ichi gyfle gwych i greu cysylltiadau - rhywbeth na all unrhyw brifysgol arall yn y DU ei gynnig.
  • Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi am yrfa yn y diwydiant ffilm, a chynhyrchu ffilmiau yn benodol.
  • Rydym wedi creu theatr berfformio, dybio a graddio a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu, cwblhau a dangos eich gwaith cynhyrchu ffilm mewn amgylchedd proffesiynol sy'n sicrhau eich bod yn cael y canlyniadau gorau.
  • Mae gennym ni gytfleusterau gwych yn yr adran sy'n cynnwys adnoddau ar gyfer gwaith ymarferol mewn ffilm a theledu: tair stiwdio berfformio â chyfarpar cyflawn; stiwdio deledu ac oriel; labordy ffilm analog; tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar cyflawn; cyfarpar gwisgoedd a wardrob; stiwdio senograffeg benodol; y tirlun lleol - adnodd sy'n ysbrydoli'n greadigol.
  • Mae'r Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig adnodd wych sy'n berthnasol i Gymru a'i phobl.
  • Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar y campws, yn lle poblogaidd i fwynhau perfformiadau a sioeau o bob math.


Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Aspects of Media Law TFM3720 20
Case Studies in Film History TFM4520 20
Film Dramaturgy TFM3120 20
Film Producing TFM3640 40
Film Production Research Project TFM3960 60
Financial Analysis and Decision Making ABM1120 20

Gyrfaoedd

Mae’r MA yn cyfuno ymarfer ym maes ffilm sy’n seiliedig ar yr agwedd ddamcaniaethol, sgiliau technegol a meddwl yn feirniadol, gan roi’r cyfle ichi ddatblygu gwaith cynhyrchu o safon uchel, yn ogystal â dod i werthfawrogi crefft, hanes a chyd-destun proffesiynol ehangach creu ffilmiau. Y nod yw ysgogi creadigrwydd a sefydlu dealltwriaeth a gwybodaeth systematig trwy gyfrwng cyfuniad o’r damcaniaethol a’r ymarferol, yn ogystal â meithrin y cymwyseddau a’r gallu hanfodol sy’n ofynnol gan gyflogwyr allweddol yn y diwydiant a chan y sector cynhyrchu annibynnol.

Cefnogir y cwrs Meistr hwn gan banel o bobl o'r diwydiant sydd â phrofiad eang yn eu priod feysydd. Byddant yn goruchwylio agweddau o'r cwrs sy'n gofyn am arbenigedd, yn cynnwys ym maes cynhyrchu ffilm.

Mae'r panel yn cynnwys y canlynol:

  • Julie Baines, Cynhyrchydd
  • Simon Moseley, Cynhyrchydd Llinell
  • Colin Nicolson, Cynhyrchydd/Recordydd Sain
  • Suzanna Wyatt, Cyfrifydd Cynhyrchiant a chyn bennaeth Cynhyrchu yn Pathé
  • Simon West, Cyfarwyddwr
  • John Stephenson, Cyfarwyddwr
  • Sheila Fraser Milne, Gwarantwr Cwblhau
  • Patrick Fischer, Cyfryngau Creadigrwydd
  • Hannah Leader, Cyfreithiwr y Cyfryngau/Cynhyrchydd
  • Allison Small, Prif Weithredwr Production Guild of the UK.

Wedi ichi gwblhau'r cwrs hwn, gallech gael gwaith yn y meysydd canlynol:

  • cynhyrchu
  • cyfarwyddo
  • cyfarwyddo cynorthwyol
  • gwaith ôl-gynhyrchu.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ar yr MA Cynhyrchu Ffilm byddwch yn dysgu sut mae cynhyrchwyr yn negodi'r berthynas rhwng cost a gwerth ac yn dod i ddeall pwysigrwydd y berthynas honno i lwyddiant ffilm yn y farchnad o safbwynt artistig ac ariannol. Bydd y cwrs hefyd yn eich galluogi i feistroli'r casgliad di-rif o sgiliau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu ffilm: cyllido, cyfrifeg ariannol, rhaglennu, cyfathrebu, negodi, cyfraith y cyfryngau, gwerthiant, marchnata a dosbarthu.

Mae'r sgiliau trosglwyddadwy hyn yn hanfodol i waith cynhyrchydd llwyddiannus ac wrth galon y radd MA unigryw hon.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn rhedeg dros un flwyddyn academaidd wedi'i rhannu'n dri semester, a byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

  • Semester 1 - Film Producing, Case Studies in Film History, Aspects of Media Law
  • Semester 2 - Film Producing (parhad), Film Distribution and Exhibition, Financial Analysis and Decision Making
  • Semester 3 - Prosiect Cynhyrchu Ffilm/Film Production Project.

Yn y gwaith prosiect, fe'ch asesir ar y gwaith o gynhyrchu'r ffilm yn hytrach na chreu'r ffilm a bydd hyn wedi'i nodi'n glir yn y meini prawf.

Cyfrifoldeb y Cynhyrchydd fydd dod â'r holl elfennau ynghyd i sicrhau llwyddiant cyffredinol i'r ffilm yn ogystal â chofnodi'r broses o greu'r ffilm ac ysgrifennu traethawd myfyriol.

|