Duration/Parhad:
12 mis llawn amser neu 24 mis rhan amser. Rhennir y flwyddyn
academaidd (mis Medi tan fis Medi) yn dair semester: Medi–Ionawr;
Ionawr–Mehefin; Mehefin–Medi.
Mae’r cwrs ar gael hefyd fel tystysgrif neu ddiploma, a dylai myfyrwyr
gysylltu â’r Adran i drafod y posibilrwydd hwn. Mae llwybr rhan amser ar
gael hefyd, lle cwblheir y modiwlau dros ddwy flynedd.
Contact Time/Oriau Cyswllt:
Oddeutu 8–10 awr yr wythnos yn y ddwy semester cyntaf. Yn ystod y
trydedd semester byddwch yn trefnu eich oriau cyswllt gyda’ch
goruchwyliwr (trefnir lleiafswm o 6 sesiwn goruchwylio).
Assessment/Aesu:
Mae’r cynllun yn cynnwys 180 credyd. Dysgir 120 credyd dros semestrau
1 a 2: oddeutu 60 credyd (semester 1), 60 credyd (semester 2). Cwblheir
y portffolio creadigol (60 credyd) yn ystod semester 3.
Entry Requirements/Gofynion Mynediad:
Gradd BA anrhydedd (2:2) yn y Gymraeg neu iaith arall, a meistrolaeth
ar Gymraeg ysgrifenedig, ynghyd â geirda. Byddwn hefyd yn ystyried
ymgeiswyr sy’n meddu ar brofiad proffesiynol perthnasol.
English Language Requirements/Gofynion Iaith Saesneg:
Os oes gennych radd Baglor o brifysgol yn y DU, nid oes angen i chi sefyll prawf i ddangos eich rhuglder yn y Saesneg.
Rhaid i siaradwyr ail iaith Saesneg nad ydynt yn cwrdd â’r gofyn
sefyll prawf a gydnabyddir gan y Brifysgol sy’n mesur eu rhuglder mewn
Saesneg academaidd. Am wybodaeth bellach gweler ein tudalen gofynion Iaith Saesneg. [section in bold should link to Welsh version of English Language requirements page.]
Course Fees/Ffioedd:
Gweler y tudalennau perthnasol ar gyfer ffioedd dysgu cyfredol. [word in bold should link to the Welsh version of pages for
current tuition fees] Noder bod ffioedd yn codi yn flynyddol. Mae
graddedigion Prifysgol Aberystwyth yn gymwys ar gyfer gostyngiad mewn
ffioedd dysgu. Gofynnwch i’r Adran, os gwelwch yn dda.
Funding/Ariannu:
Mae’r MA Ysgrifennu Creadigol yn gymwys ar gyfer nawdd y Coleg
Cymraeg Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Gweler hefyd y cyfrifiannell gyllid i weld pa gyfleoedd sydd ar gael. [words in bold should be linked to the Welsh version of funding calculator].
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.