Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol.
Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs.
Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Mathemateg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a byddwch yn cydweithio . myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu Mathemateg i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys y manylebau TGAU ac UG/Safon Uwch Mathemateg. Mae gan y Grŵp Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon Statws Rhagoriaeth ar .l ennill y ‘Mathematics Tribal Award’. Mae’r grŵp hefyd wedi ei gymeradwyo gan ERW ar gyfer statws ysgol arfer gorau wrth addysgu mathemateg a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae pob ysgol yn brofiadol wrth gynnal athrawon dan hyfforddiant.
Cynhelir y lleoliadau mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle mae gan ysgolion gysylltiadau agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn y lleoliad, byddwch yn cydweithio'n agos â'ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu.
Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, byddwch yn cael cyfnod byr ar leoliad mewn ysgol gynradd ac yn cydweithio ag athrawon cynradd medrus. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil gweithredol i ddatblygu agwedd ar eich ymarfer a dechrau eich gyrfa fel athro sy'n seilio ymarfer ar ymchwil.