MA

Prydain ac Ewrop yr Oesoedd Canol

Mae’r cynllun Meistr hwn yn tynnu ar gryfderau’r Adran ym maes hanes Prydain ac Ewrop o gyfnod y Goresgyniad Normanaidd hyd at y Diwygiad. Mae’n gyfle i chi astudio Prydain yn yr oesoedd canol yn ei chyd-destun Ewropeaidd ehangach ac o amryw o safbwyntiau thematig gan gynnwys hanes gwleidyddol, diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a chrefyddol. Mae rhaglen o hyfforddiant dwys mewn Lladin a phalaeograffeg yn rhan annatod o’r cynllun.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase. 

Funding:

Funding opportunities may be available, please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Prydain ac Ewrop yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Gallwch astudio dim ond bum munud i ffwrdd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn y DU, sy’n gartref i lu o ffynonellau ar hanes Cymru, o’r cyfnod canoloesol ymlaen, gan gynnwys cofnodion ystadau, llysoedd ac eglwysi, mapiau, ffotograffau, papurau newydd, archifau preifat llawer o ffigurau blaenllaw yn hanes Cymru, yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. 
  • Mae hanes wedi cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r un hynaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae gennym gysylltiadau cryf â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ac maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn Aberystwyth.
  • Cewch gyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), sef partneriaeth ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.
  • Byddwch yn elwa o raglen gyfoethog o siaradwyr gwadd, gweithdai a seminarau.
  • Byddwch yn ymuno â chymuned fywiog o fyfyrwyr uwchraddedig eraill sy’n ymddiddori yn y canol oesoedd.
  • Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel awdurdodau blaenllaw yn eu priod feysydd.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn gyda sefydliad sy'n ymdrin â hanes bob dydd. 
  • Byddwch yn elwa o gael eich addysgu mewn grwpiau bach.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion yrfaoedd cynhwysfawr ac amrywiol mewn amgueddfeydd, maes gweinyddu treftadaeth, twristiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, athrawon ysgol, newyddiaduraeth, darlledu a chyhoeddi.

Sgiliau

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Meithrin eich doniau beirniadol.
  • Datblygu sgiliau astudio ac ymchwil.
  • Ennill arbenigedd academaidd ac ymarferol o brosesau treftadaeth a hanesyddol.
  • Datblygu sgiliau ysgrifennu a dadansoddi cryf yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol.
  • Datblygu eich galluoedd i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn glir, yn gywir, ac yn awdurdodol.
  • Ystyried arferion hanesyddol ar lefel uwch
  • Datblygu sgiliau ymarferol a phrofiad ymarferol wrth ymchwilio i hanes yr Oesoedd Canol.
  • Datblygu dealltwriaeth uwch o gystrawen, gramadeg a geirfa Lladin.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i’n ei ddysgu? 

Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o seminarau, tiwtorialau a gweithdai.

Bydd y modiwl craidd, 'Dulliau Ymchwil a Sgiliau Proffesiynol mewn Hanes', hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi fynychu seminarau ymchwil adrannol, lle byddwch yn ymdrwytho yn niwylliant ymchwil yr adran.

Trwy gydol y flwyddyn bydd gweithdai i helpu i ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir, ac yn ystod y semester olaf, byddwch yn trefnu lefel addas o amser cyswllt gydag arolygydd eich traethawd hir.

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Os byddwch chi'n astudio'n llawn amser, mae'r ddau semester cyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gan gynnwys modiwl arbenigol ar lawysgrifen ganoloesol.

Mae modiwlau dewisol yn amrywiol ac yn eich galluogi i deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau.

Yn y semester olaf, byddwch yn cwblhau eich traethawd ymchwil MA, prosiect ymchwil gwreiddiol (15,000 o eiriau) a fydd yn cael ei wneud o dan arolygiaeth agos arbenigwr yn yr adran.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, prosiectau, ymarferion ymarferol, asesiadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig.

Os cyflwynir traethawd hir MA llwyddiannus yn y semester olaf, dyfernir gradd MA. 

|