MA

Hanes Modern

Mae’r radd hon yn gyfle i chi astudio hanes modern Prydain a chyfandir Ewrop, America a/neu hanes y byd o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw gyda thîm o arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.

Bydd y cwrs hwn yn mynd ar drywydd nifer o safbwyntiau, gan gynnwys hanes gwleidyddol, diplomyddol, cymdeithasol, diwylliant a'r cyfryngau. Cewch hefyd eich trwytho mewn sgiliau a dulliau ymchwil ym maes hanes modern, ac fe gewch y cyfle hefyd i ddatblygu a gwella'ch gwybodaeth am iaith Ewropeaidd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio MA Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Gallwch astudio dim ond bum munud i ffwrdd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn y DU, sy’n gartref i lu o ffynonellau ar hanes Cymru, o’r cyfnod canoloesol ymlaen, gan gynnwys cofnodion ystadau, llysoedd ac eglwysi, mapiau, ffotograffau, papurau newydd, archifau preifat llawer o ffigurau blaenllaw yn hanes Cymru, yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
  • Mae hanes wedi cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r un hynaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn gyda sefydliad sy'n ymdrin â hanes bob dydd. 
  • Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel awdurdodau blaenllaw yn eu priod feysydd.
  • Byddwch yn elwa o gael eich addysgu mewn grwpiau bach.
  • Byddwch yn elwa o raglen gyfoethog o siaradwyr gwadd, gweithdai a seminarau.
  • Byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o baradeimiau, safbwyntiau, methodolegau, ffynonellau a dulliau rhyngddisgyblaethol o ymdrin â hanes.
  • Byddwch yn datblygu eich diddordebau ymchwil eich hun ym maes hanes modern (18fed 19eg, 20fed ganrif, gan gynnwys y cyfnod cyfoes) gyda chymorth arbenigedd hirsefydlog yr Adran Hanes a Hanes Cymru.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 1 flwyddyn (amser llawn) neu 2 flynedd (rhan-amser).

Amser cyswllt: Tua 10 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna bydd y myfyriwr a’r tiwtor yn cytuno rhyngddynt ar gyfnodau’r amser cyswllt.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion yrfaoedd cynhwysfawr ac amrywiol mewn amgueddfeydd ac archifau, maes gweinyddu treftadaeth, twristiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, dysgu, newyddiaduraeth, darlledu a chyhoeddi.

Sgiliau

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Meithrin eich doniau beirniadol.
  • Datblygu sgiliau astudio ac ymchwil.
  • Datblygu sgiliau ysgrifennu a dadansoddi cryf yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol.
  • Datblygu eich galluoedd i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn glir, yn gywir, ac yn awdurdodol.
  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch profiad pwnc-benodol.
  • Datblygu a chynnal rhaglen waith o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i’n ei ddysgu? 

Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o seminarau, tiwtorialau, gweithdai, a lleoliad gwaith gydag asiantaeth dreftadaeth.

Bydd y modiwl craidd, 'Dulliau Ymchwil a Sgiliau Proffesiynol mewn Hanes', hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi fynychu seminarau ymchwil adrannol, lle byddwch yn ymdrwytho yn niwylliant ymchwil yr adran.

Trwy gydol y flwyddyn bydd gweithdai i helpu i ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir, ac yn ystod y semester olaf, byddwch yn trefnu lefel addas o amser cyswllt gydag arolygydd eich traethawd hir.

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Os byddwch chi'n astudio'n llawn amser, mae'r ddau semester cyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd. Mae modiwlau dewisol yn amrywiol ac yn eich galluogi i deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau.

Yn y semester olaf, byddwch yn cwblhau eich traethawd ymchwil MA, prosiect ymchwil gwreiddiol (15,000 o eiriau) a fydd yn cael ei wneud o dan arolygiaeth agos arbenigwr yn yr adran.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, prosiectau, ymarferion ymarferol, asesiadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig.

Os cyflwynir traethawd hir MA llwyddiannus yn y semester olaf, dyfernir gradd MA. 

|