Cymhwyster ôl-raddedig uwch yn seiliedig ar ymchwil yw Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) mewn Cyfrifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n golygu y byddwch yn ymchwilio ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil dros 2 flynedd.
Mae aelodau staff bob amser yn hapus i drafod â graddedigion cymwys ynglŷn â rhaglenni ymchwil PhD ac MPhil addas.
Fel arfer, dylai’r ymchwil fod yn gysylltiedig ag un o brif feysydd ymchwil yr adran.
Yn debyg i PhD, cewch gyfle i ddilyn maes sydd o ddiddordeb o dan arweiniad arolygydd, a bydd yn rhaid i chi gyfiawnhau eich traethawd ymchwil mewn arholiad viva voce; fodd bynnag, mae dadansoddiad MPhil yn llai manwl na dadansoddiad PhD.
Dysgu ac Addysgu
Bydd eich ymchwil yn cael ei dywys gan dîm arolygu, a fydd yn eich cynorthwyo i fireinio eich cynnig ymchwil, a’ch tywys wrth gasglu a dadansoddi data. Ar ddiwedd eich astudiaethau, bydd gennych arholiad viva voce (amddiffyniad llafar o'ch traethawd ymchwil).