Gwyddorau Biolegol
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs C1250-
Cymhwyster
MPhil
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae Adran y Gwyddorau Bywyd ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd i ymgymryd â gradd ymchwil yn y gwyddorau biolegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Mae Aberystwyth yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am ein rhaglenni bridio planhigion, yn ogystal â'n harbenigedd ymchwil mewn gwyddor anifeiliaid a chnydau. O fewn y Ganolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw, rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu cig defaid yn effeithlon tra'n lleihau'r effaith amgylcheddol, tra bo Platfform Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn darparu adnodd ymchwil i ymchwilio i ecosystemau a ffermir gan yr ucheldir. Mae ein ffermydd yn ymestyn i dros 800 hectar ac yn gweithredu fel safleoedd arloesi ar gyfer gwasanaeth trosglwyddo gwybodaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant.
Mae IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Mae'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn gyfleuster unigryw ar gyfer darparu atebion bridio a datblygiadau ar gyfer rhywogaethau cnydau allweddol. Mae Banc Hadau IBERS yn diogelu un o gasgliadau mwyaf y byd o hadau o laswellt, meillion, ceirch a miscanthus.Yn y cyfamser mae AberInnovation yn dod â'r byd academaidd a busnesau o'r sectorau biowyddoniaeth, technoleg amaeth, a bwyd a diod ynghyd ar gampws newydd sbon gwerth £40.5 miliwn.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
|