Bydd y cwrs Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) mewn Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi llwyfan i chi gyflawni ymchwil academaidd gwreiddiol sy'n gwneud cyfraniad newydd i'ch maes astudio penodol chi. Gallwch wneud darganfyddiadau newydd, profi damcaniaethau newydd, a gwthio ffiniau cyfoes gwybodaeth a dealltwriaeth.
Mae aelodau staff bob amser yn hapus i drafod â graddedigion cymwys ynglŷn â rhaglenni ymchwil PhD ac MPhil addas mewn Rheolaeth a Busnes (yn cynnwys Marchnata a Thwristiaeth).
Fel arfer, dylai’r ymchwil fod yn gysylltiedig ag un o brif feysydd ymchwil yr adran.
Cymhwyster ôl-raddedig uwch yn seiliedig ar ymchwil yw Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) mewn Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n golygu y byddwch yn ymchwilio ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil dros 2 flynedd.
Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, rydym yn denu gweithwyr proffesiynol o bob cwr o'r byd, sy'n anelu i ymdopi â heriau'r gymuned fusnes fyd-eang. Mae ein hamgylchedd dysgu yn un deinamig sydd wedi'i drefnu i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Mae ein cwricwlwm yn defnyddio arbenigedd gweithwyr proffesiynol o bob rhan o fyd busnes a diwydiant.
Dysgu ac Addysgu
Bydd eich ymchwil yn cael ei dywys gan dîm arolygu, a fydd yn eich cynorthwyo i fireinio eich cynnig ymchwil, a’ch tywys wrth gasglu a dadansoddi data. Ar ddiwedd eich astudiaethau, byddwch yn cael arholiad viva voce (sef amddiffyniad llafar o'ch traethawd ymchwil).