MPhil

Mathemateg

Mae mathemateg ymhlith gorchestion pennaf y meddwl dynol. Mae'r pwnc wedi cyfareddu meddylwyr drwy’r oesoedd, o wareiddiadau hynafol bum mil o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae'n ddisgyblaeth fyw, sy'n esblygu; mae ffiniau mathemateg wedi’u hehangu ymhell y tu hwnt i geometreg a damcaniaeth rhif y Groegiaid ac algebra'r Indiaid cynnar ac Islam. Galwyd mathemateg yn "Frenhines y Gwyddorau" gan un o’r mathemategwyr mwyaf erioed, Carl Friedrich Gauss.

Mae’r Adran Fathemateg yn Aberystwyth yn cynnig cyfleusterau i fyfyrwyr astudio ar gyfer graddau PhD ac MPhil trwy ymchwil.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available; please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Cynigir goruchwyliaeth MPhil mewn meysydd sy'n cyd-fynd â'n grwpiau ymchwil:

Mae'r ymchwilwyr ym mhob grŵp yn ymwneud â chynlluniau cydweithio ehangach.

Mae gennym lyfrgell Gwyddorau Ffisegol pwrpasol ar y campws sy'n gartref i ddeunydd ymchwil rhagorol ar gyfer astudio mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg, gan gynnwys Casgliad Scott Blair, adnodd cynhwysfawr a phwysig ar gyfer astudio rheoleg.

Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel addas o hyfforddiant i'w holl fyfyrwyr uwchraddedig. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn mae’r Brifysgol wedi sefydlu rhaglen gyda’r nod o helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gwblhau eu graddau ymchwil yn llwyddiannus yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol. O'r herwydd, bydd yr holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig yn ymgymryd â rhai modiwlau hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn astudio MPhil i gysylltu â'r adran fel y gellir datblygu pwnc ymchwil hyfyw trwy drafod gydag aelodau staff sydd â diddordebau ymchwil perthnasol. Mae aelodau'r adran bob amser yn hapus i ystyried cynigion ymchwil sy'n ymwneud â'u diddordebau ymchwil. 

I wneud cais am le ar y rhaglen MPhil, bydd angen i chi baratoi cynnig ymchwil, datganiad personol, llenwi ffurflen gais a darparu dau eirda. Gweler y tudalennau Gwneud Cais am ragor o fanylion.

Cyswllt:

I drafod prosiectau ymchwil posibl, cysylltwch â'r Adran ar maths@aber.ac.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion ar derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk neu +44 (0) 1970 622270. 

|