Rheoli Parasitiaid
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs C111-
Cymhwyster
MRes
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae'r cwrs Rheoli Parasitiaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain at gymhwyster MRes a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a fydd yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i'r rhai sy'n dymuno astudio am radd PhD neu ddilyn cyfleoedd ymchwil masnachol neu ddiwydiannol. Gan ganolbwyntio'n benodol ar barasitiaid a'r afiechydon y maent yn eu hachosi, byddwch yn elwa ar wybodaeth arbenigol wrth ganfod, atal a rheoli pathogenau protosoaidd yn ogystal a rhai metasoaidd mewn anifeiliaid a dynion. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn meysydd arbenigol gan gynnwys biocemeg, bioleg foleciwlaidd, meithrin organebau cyfan/celloedd a’u trin, biowybodeg, proteomeg, trawsgrifomeg, genomeg, genomeg swyddogaethol, darganfod cyffuriau, brechu, darganfod biomarcwyr, geneteg/epigeneteg, epidemioleg, bioleg ac ecoleg organebau lletyol cludol/rhyngol.
Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn deall sut y gellir defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol i reoli rhai o'r organebau heintus mwyaf marwol ar y blaned a byddwch yn barod i ddilyn eich gyrfa mewn parasitoleg.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Hot Topics in Parasite Control | BRM0920 | 20 |
Infection and Immunity | BRM1620 | 20 |
MRes Dissertation (A) | BRM6060 | 60 |
MRes Dissertation (B) | BRM6160 | 60 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Field and Laboratory Techniques | BRM4820 | 20 |
Frontiers in the Biosciences | BRM0220 | 20 |
Statistical Concepts, Methods and Tools | MAM5120 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
|