PhD

Cyfrifeg

Cwrs tair blynedd yw rhaglen Doethur (PhD) mewn Cyfrifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a fydd yn rhoi llwyfan i chi gyflawni ymchwil academaidd gwreiddiol sy'n gwneud cyfraniad newydd i'ch maes astudio penodol. Gallwch wneud darganfyddiadau newydd, profi damcaniaethau newydd, a gwthio ffiniau cyfoes gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae aelodau staff bob amser yn hapus i drafod â graddedigion cymwys ynglŷn â rhaglenni ymchwil PhD ac MPhil addas.

Fel arfer, dylai’r ymchwil fod yn gysylltiedig ag un o brif feysydd ymchwil yr adran.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available; please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd eich ymchwil yn cael ei dywys gan dîm arolygu, a fydd yn eich cynorthwyo i fireinio eich cynnig ymchwil, a’ch tywys wrth gasglu a dadansoddi data. Ar ddiwedd eich astudiaethau, bydd gennych arholiad viva voce (amddiffyniad llafar o'ch traethawd ymchwil).

Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel addas o hyfforddiant i'w holl fyfyrwyr uwchraddedig. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn mae’r Brifysgol wedi sefydlu rhaglen gyda’r nod o helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gwblhau eu graddau ymchwil yn llwyddiannus yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol. O'r herwydd, bydd yr holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig yn ymgymryd â rhai modiwlau hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn astudio PhD i gysylltu â'r adran fel y gellir datblygu pwnc ymchwil hyfyw trwy drafod gydag aelodau staff sydd â diddordebau ymchwil perthnasol. Mae aelodau'r adran bob amser yn hapus i ystyried cynigion ymchwil sy'n ymwneud â'u diddordebau ymchwil. 

I wneud cais am le ar y rhaglen PhD, bydd angen i chi baratoi cynnig ymchwil, datganiad personol, llenwi ffurflen gais a darparu dau eirda. Gweler y tudalennau Gwneud Cais am ragor o fanylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Quantitative Data Collection and Analysis (for social scientists) PGM1010 10
Dulliau Darllen MOR0510 10
Manuscript Skills: Post Medieval Palaeographic and Diplomatic PGM1210 10
Principles of Research Design PGM0210 10
Ways of Reading PGM0410 10

|