MBA

Rheoli Prosiectau

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025

Mae'r MBA Meistr Proffesiynol mewn Rheoli Prosiectau yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn canolbwyntio ar reoli ac arwain prosiectau a datblygu a defnyddio offer a thechnegau rheoli prosiect, gan gynnwys arwain timau, technegau a systemau rheoli prosiectau, dadansoddi ariannol a monitro a rheoli prosiectau. Bydd yr ymgeiswyr yn cwblhau adroddiad rheoli prosiect sylweddol ar ddiwedd eu hastudiaethau sy'n canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau a fydd yn ychwanegu gwerth i’w cwmnïau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelor (honours) degree plus 24 months of relevant work experience or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience and/or professional qualifications.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglenni MBA Proffesiynol yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella eich sgiliau academaidd a'ch sgiliau rheoli. Un o'r amcanion pwysig yw rhoi hyfforddiant dadansoddol blaengar ar ddatblygiadau diweddaraf y sectorau cyhoeddus a phreifat mewn rheoli a threfnu strategol. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar draws amryw feysydd sy'n ymwneud â sefyllfaoedd posibl a sefyllfaoedd penodol, yn cyfuno'r wybodaeth yn ffurf briodol er mwyn pwyso a mesur atebion amgen a gwneud penderfyniadau dilynol, ac yn dod i gyswllt â phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol er mwyn codi lefel yr ymwybyddiaeth a’r meddwl sefydliadol. 

Fel myfyriwr ar y rhaglen Meistr Proffesiynol, byddwch yn astudio'r ddamcaniaeth ddiweddaraf ynglŷn â rheoli a'r arferion a gydnabyddir y gorau mewn meysydd megis arweinyddiaeth, gweithrediadau, llywodraethu corfforaethol a chynaliadwyedd. Mae'r rhaglen yn cynnwys edrych ar ymddygiad arweinyddiaeth ac ymddygiad sefydliadol. Trwy astudio dadansoddiadau ariannol a phenderfyniadau ariannol, pwysleisir y defnydd o ddata ariannol a chyfrifyddu i ddylanwadu ar benderfyniadau a gweithrediadau strategol a'u gwella. Mae'r sylw a roddir i economeg busnes yn pwysleisio'r cyd-destun allanol, yn ogystal â'r sylfeini economaidd, ar gyfer gwneud penderfyniadau busnes ar draws pob math o feysydd swyddogaethol. Mae'r rhaglenni'n arwain at gwblhau prosiect uchafbwynt sy'n eich galluogi i gymhwyso'r damcaniaethau a ddysgwyd ar y rhaglen i'ch gweithle er mwyn gwneud gwelliannau i’ch busnesau sy’n cael effaith uchel. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 

Gellir cwblhau'r rhaglen dros 12 mis yn amser llawn a hyd at 3 blynedd yn rhan-amser. Ar ôl cwblhau'r modiwlau a ddysgir, bydd ymgeiswyr MBA Proffesiynol yn cyflawni prosiect rheoli. 

Asesiad: 

Mae'r asesu'n digwydd ar ffurf adroddiadau ar broblemau dysgu gweithredol a gyflawnir ar y cyd, astudiaethau achos, asesiadau llafar ac adroddiadau dadansoddi. Bydd pob myfyriwr yn cwblhau prosiect rheoli gwerth 60 credyd.   

Ffioedd y Cwrs: 

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Sylwch fod cynnydd blynyddol yn yr holl ffioedd. 

Cyllido: 

Efallai y bydd cyfleoedd cyllido ar gael, ewch i'n cyfrifiannell gyllido i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae'r rhaglenni Meistr Proffesiynol wedi'u cynllunio ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ar lefel broffesiynol sydd â rhywfaint o brofiad busnes blaenorol, neu reolwyr ac arweinwyr busnes profiadol sy'n dymuno dod yn rheolwyr ym maes busnes a diwydiant. Byddai'r cyrsiau o ddiddordeb arbennig i'r rhai sy'n ceisio:  

  • astudio pwnc sydd o bwys gwirioneddol yn fyd-eang 
  • datblygu'r gallu i werthfawrogi damcaniaeth, ymarfer a'r amgylchedd ariannol yn feirniadol. 
  • datblygu gallu rheoli perfformiad uchel i ddatblygu eu busnesau 
  • datblygu prosiectau effaith uchel yn eu busnesau. 

Byddwch yn datblygu'r galluoedd a'r cymwyseddau allweddol canlynol: 

Sgiliau Astudio 

Ochr yn ochr â chyfoeth o arbenigedd ariannol o'r radd flaenaf, byddwch yn meistroli galluoedd atyniadol iawn ym maes ymchwil academaidd, dadansoddi, ffurfio dadleuon, cyflwyno, a dadlau. Byddwch hefyd yn profi eich gallu i fyfyrio a’ch gwella eich hun; byddwch yn gallu gweld beth yw eich gwendidau academaidd a chael gwared ohonynt ac adeiladu ar eich cryfderau. 

Hunan-gymhelliant a disgyblaeth 

Mae astudio ar lefel Meistr yn mynnu disgyblaeth a hunan-gymhelliant gan bob ymgeisydd. Byddwch yn cael manteisio ar arbenigedd ac arweiniad defnyddiol y staff adrannol, ond yn y pen draw chi sy'n gyfrifol am ddyfeisio a chwblhau rhaglen o ymchwil ysgolheigaidd gyson er mwyn ennill eich gradd Meistr. Bydd y broses hon o astudio annibynnol ar lefel uchel iawn yn cryfhau eich sgiliau fel gweithiwr annibynnol a hunangynhaliol, nodwedd sy’n bwysig iawn yng ngolwg y rhan fwyaf o gyflogwyr. 

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Mae'r rhaglen Meistr Proffesiynol wedi'i chynllunio i roi cyfres o sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau busnes. Ar ôl graddio, byddwch wedi profi eich gallu i strwythuro a mynegi syniadau'n effeithlon, ysgrifennu ar gyfer sawl math o gynulleidfa, siarad â chynulleidfaoedd, cloriannu a threfnu gwybodaeth, gweithio'n effeithiol gydag eraill, gweithio o fewn ac erbyn terfynau amser penodol, a chyflwyno strategaethau busnes sy’n cael effaith uchel ac ymarferol i wella'ch busnes. 

Dysgu ac Addysgu

Mae fframwaith dysgu ac addysgu ein cyrsiau MBA Proffesiynol wedi'i gynllunio i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu deall, defnyddio ac ymateb i ddulliau a fframweithiau damcaniaethol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. 

Mae'r gyfres o fodiwlau a restrir isod (sydd ar gael i fyfyrwyr ar unrhyw un o'n cyrsiau MBA proffesiynol) yn fodd i chi ddatblygu dealltwriaeth eang o themâu allweddol sydd angen i uwch reolwyr unrhyw sefydliad eu deall a'u rheoli.  

People and Organisations 

Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i'r ffyrdd y mae datblygiad sefydliad yn cael ei yrru gan ei bobl. Ystyrir egwyddorion damcaniaethol perthnasol a modelau rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol ac arweinyddiaeth. Mae pynciau penodol yn cynnwys denu a dethol staff, cymhelliant a thâl gweithwyr, diwylliant sefydliadol a rheoli newid, ac amrywioldeb mewn cyflogaeth. Mae pwyslais ar gymhwyso trwy ddefnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos. 

Marketing Management Strategy 

Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag adnabod marchnadoedd, cychwyn mewn marchnadoedd a'u datblygu. Mae'n rhoi sylfaen trylwyr yn y damcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata, trwy archwilio cysyniadau a modelau marchnata strategol. Mae'r modiwl yn cloriannu rhan marchnata mewn amgylcheddau sefydliadol cyfoes. Defnyddir dull rheoli cyffredinol gan gydnabod bod cycsylltiadau a chyfeiriadedd y farchnad yn gynseiliau allweddol ar gyfer rheoli busnes a marchnata. 

International Business Economics 

Mae'r modiwl hwn yn ymwneud ag egwyddorion, cysyniadau a dulliau dadansoddi micro economeg a macro economeg, ac yn dadansoddi ymddygiad micro economaidd unigolion, aelwydydd, cwmnïau, a'u hymwneud a'i gilydd. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin ag ymddygiad macro economaidd agregau economaidd, gan gynnwys cynnyrch domestig gros, treuliant, buddsoddiad, chwyddiant, diweithdra a chydbwysedd taliadau. Mae pwyslais ar y rhan sydd i bolisi'r llywodraeth a rheoleiddio o safbwynt micro economaidd a macro economaidd. 

Corporate Governance & Sustainability 

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, ymchwil ac arferion allweddol llywodraethu corfforaethol mewn cyd-destun sy'n dod mwyfwy yn un byd-eang. Archwilir codau llywodraethu corfforaethol cyfoes, gofynion datgelu gwybodaeth, rheoli risg a systemau moesegol, gyda phwyslais ar natur gyfannol systemau a phrosesau o'r fath. Edrychir ar faterion polisi archwilio a chyfrifeg, gan gyfeirio at gydgyfeiriant rhyngwladol y safonau proffesiynol a'r ymatebion rheoleiddiol i faterion cyfredol. Rhoddir sylw arbennig i gynaliadwyedd a moeseg busnes. 

Financial Management and Decision Making 

Mae'r modiwl hwn yn datblygu gafael ymarferol ar gyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol, dadansoddi ariannol a’r broses o wneud penderfyniadau ariannol, sy'n berthnasol i'r darpar reolwr cyffredinol. Mae'r pynciau'n cynnwys paratoi a dehongli'r prif ddatganiadau ariannol; gofynion ac arferion cyfrifyddu ar gyfer y gwaith o gynllunio, monitro, rheoli a rheoleiddio busnes yn fewnol; a chyllid busnes, gan gynnwys ffynonellau cyllid, rheolaeth ariannol, a dadansoddiad y farchnad stoc o berfformiad. 

International Strategy and Operations 

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar strategaeth ryngwladol a rheoli gweithrediadau, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi ryngwladol, agwedd ar gyfleoedd busnes sy'n dod yn fwyfwy pwysig ledled y byd. Mae'r modiwl yn archwilio'r technegau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio, gweithredu a rheoli prosesau busnes ac ymgynghori, gan gynnwys dulliau o leihau risg y gadwyn gyflenwi. Pwysleisia'r modiwl bwysigrwydd y berthynas rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr, yn ogystal â'r risgiau sy'n gysylltiedig â rheoli'r gadwyn gyflenwi. 

Project Management Tools and Techniques 

Trwy'r broses o astudio a myfyrio ar brosesau cynllunio, trefnu a rheoli prosiectau peirianneg, nod y modiwl yw dadansoddi'n feirniadol nifer o fodelau rheoli prosiect, offer a thechnegau cynllunio prosiectau peirianneg, a chymhwyso'r technegau hyn i ddylunio, cynllunio, rheoli costau a rheoli sefyllfaoedd prosiect penodol. 

Leading and Managing Projects 

Er bod Rheoli Prosiectau yn canolbwyntio fel arfer ar y broses o reoli prosiectau tymor byr hyd at eu cwblhau’n llwyddiannus, yn unol â’r tair elfen Amser, Cost ac Ansawdd, mae Arwain a Rheoli Prosiectau yn edrych yn fanwl ar elfennau mwy soffistigedig a meddal Rheoli Rhaglenni'n llwyddiannus ac effaith strategaeth ac arweinyddiaeth ar gyflawni prosiectau a rhaglenni llwyddiannus.  

Global Supply Chain Management 

Nod y modiwl hwn yw adnabod y prif ysgogwyr a'r materion sy'n sbarduno globaleiddio diwydiannau a marchnadoedd ac edrych yn fanylach ar brif weithgareddau, strwythurau a rheolaeth systemau logisteg byd-eang a rhyngwladol a rhwydweithiau cyflenwi. 

Green Logistics and Supply Chain Management 

Mae'r modiwl hwn yn astudio’n feirniadol yr amrywiol strategaethau, systemau, a thechnolegau cadwyn gyflenwi a logisteg a ddefnyddir wrth ddatblygu systemau cadwyn gyflenwi a, thrwy gymhwyso strategaethau dylunio systematig; cynllunio, dylunio a datblygu ffurfweddau cadwyn gyflenwi a logisteg addas ac effeithiol ar gyfer sefyllfaoedd penodol. 

Environmental Economics 

Mae'r modiwl hwn yn dadansoddi sut y gall llywodraethau, cyrff anllywodraethol a'r sector busnes ddefnyddio damcaniaeth economaidd i helpu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol. Cyflwynir cysyniadau sylfaenol damcaniaeth economaidd, er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r ffordd y mae marchnadoedd i fod i gyflawni dyraniadau economaidd effeithlon a pham fod hyn, lle methir â gwneud hynny, yn aml yn arwain at ddiraddio amgylcheddol. Mae'r modiwl wedyn yn ystyried sut y gallai llywodraethau, cyrff anllywodraethol a busnesau ymyrryd i fynd i'r afael â materion amgylcheddol, ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ystod o offerynnau polisi gan gynnwys offerynnau gorchymyn-a-rheoli ac offerynnau sy'n seiliedig ar gymhelliant. Mae'n archwilio hefyd pam fod economegwyr yn rhoi pwyslais ar brisiant ariannol ac anariannol nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, gan roi beirniadaeth ar y technegau hyn. Yna byddwn yn ystyried sut y gellid ymgorffori gwerthoedd o'r fath wrth gynllunio a gwerthuso polisïau amgylcheddol, yn ogystal â dangosyddion macro economaidd, megis mesurau Cynnyrch Domestig Gros Gwyrdd. Dangosir y damcaniaethau uchod yn ymarferol trwy gyfres o astudiaethau achos polisi amgylcheddol cyfoes. 

Global Marketing 

Mae'r modiwl hwn yn dangos sut i adnabod a chychwyn mewn marchnadoedd rhyngwladol/byd-eang a’u datblygu. Rhoddir dealltwriaeth drylwyr o ddamcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata byd-eang a rhyngwladol, gan gynnwys cymhellion ar gyfer ehangu rhyngwladol, dewis marchnad a chychwyn ynddi, rheoli cyfathrebu a chysylltiadau cwsmeriaid mewn marchnadoedd rhyngwladol, a brandio rhyngwladol. 

Quality Engineering and Management 

Trwy archwilio a myfyrio ar y cysyniad o systemau ansawdd a rheoli ansawdd, nod y modiwl hwn yw dadansoddi nifer o systemau a modelau Sicrwydd Ansawdd a Pheirianneg Ansawdd yn ogystal ag offer a thechnegau cynllunio ansawdd a thechnegau gwella ansawdd cyfoes, a bydd yn cymhwyso'r technegau hyn i ddylunio, cynllunio, rheolaeth, a rheoli systemau cynhyrchu penodol. 

Ethics, Sustainability & Corporate Responsibility in Organisations 

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli trwy foeseg a chyfrifoldeb corfforaethol. Bydd yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd/gweithdai sy'n canolbwyntio ar foeseg a chyfrifoldeb corfforaethol, gan gyfuno eglurhad damcaniaethol a defnyddio astudiaethau achos cyfoes er mwyn cymhwyso damcaniaethau i enghreifftiau ymarferol. 


|