Sefydlwyd ein Hysgol yn 1892, ac mae ymhlith yr adrannau Addysg hynaf yn y Deyrnas Unedig.
Ein nod yw cyfuno'r gorau o'n traddodiad ni am ragoriaeth academaidd â'r dulliau diweddaraf oll o ddysgu, cysylltu â'r myfyrwyr ac ymchwilio.
Mae'r Ysgol Addysg yn cynnig graddau MPhil a PhD. Mae'r rhain yn raddau sy'n seiliedig ar ymchwil, lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil unigol o dan oruchwyliaeth academaidd agos o fewn yr adran. Gellir eu hastudio'n amser-llawn neu'n rhan-amser.
Mae'r PhD fel arfer yn cymryd tair blynedd o ymchwil amser-llawn (pum mlynedd yn rhan-amser), ac ar ôl hynny mae myfyrwyr yn cwblhau ac yn cyflwyno traethawd hir o rhwng 80-100,000 o eiriau.
Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.
Funding
Funding opportunities may be available, please check the funding calculator for details.
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ymchwil yr Ysgol Addysg yn canolbwyntio ar dri maes allweddol.
Addysgu, dysgu ac aggysgeg:
sut mae dysgwyr yn dysgu
gwybodaeth a dealltwriaeth o bynciau
TGCh a dysgu
athrawon a dysgu proffesiynol
datblygu'r cwricwlwm
asesu ar gyfer dysgu
addysg ddwyieithog.
Astudiaethau plentyndod:
sut mae plant yn datblygu ac yn dysgu
astudiaethau rhywedd
caffael iaith a datblygu iaith
iechyd a llesiant
ysgolion iach
anghenion dysgu ychwanegol.
Polisi addysgol:
partneriaeth a chydweithredu mewn addysg
addysg wledig
datblygu'r gweithlu mewn addysg
arweinyddiaeth mewn addysg
addysg gymunedol
polisi addysg cenedlaethol a lleol a'r effaith ar ysgolion bach.
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Rwy'n ymchwilio i fesur effeithiolrwydd darparu addysg iechyd rhywiol mewn ysgolion uwchradd yn Nepal. Dechreuodd fy niddordeb yn y pwnc hwn ar ôl treulio dros saith mlynedd yn gweithio gyda phobl ifanc yn Nepal i hyrwyddo eu hiechyd rhywiol ac atgenhedlu. Cyn fy ngradd PhD, cwblheais MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a theitl fy ymchwil oedd 'Parent and Pupil Involvement in Developing and Delivering Sex Education Programmes in Scottish Secondary Schools.' Roedd yn seiliedig ar ddata eilaidd a gasglwyd gan Brifysgol Aberdeen a GIG Grampian. Gwnaeth y cyfuniad o'r profiadau a'r wybodaeth hyn fy nenu i gynnal ymchwil i iechyd rhywiol ac atgenhedlu pobl ifanc. Rwy'n teimlo mai'r sgiliau ychwanegol rydw i wedi'u meithrin ers ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yw: Dylunio cynnig astudio cadarn; dadansoddiad thematig ar gyfer data ansoddol; dulliau dadansoddi data mwy cymhleth ar gyfer data meintiol gan ddefnyddio SPSS; gwybodaeth ar ddylunio astudiaethau cymysg; a sgiliau cyflwyno. Byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â Phrifysgol Aberystwyth os ydynt o ddifrif ynghylch gyrfa ym maes ymchwil addysgol yn y dyfodol. Mae hwn yn bendant yn lle da i ddechrau ar eich uchelgais. Ar ôl fy ngradd PhD hoffwn weithio fel ymchwilydd addysgol / cymdeithasol i Sefydliad Anllywodraethol e.e. Sefydliad Iechyd y Byd, Cronfa Poblogaeth y Cenhedloedd Unedig, UNICEF. Dev Raj Acharya - PhD