PhD

Hanes

Mae Aberystwyth yn ymfalchïo mewn cyfleusterau ymchwil heb eu hail o gymharu â’r rhan fwyaf o brifysgolion y DU, ac mae adnoddau rhagorol y dref o ran llyfrau a llawysgrifau yn ychwanegu at apêl Aberystwyth i’r hanesydd. Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth enw da am ymchwil arloesol a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae'n awyddus i ddenu graddedigion mentrus a llawn dychymyg i astudio ar gyfer graddau PhD ac MPhil.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants should submit a full research proposal at the point of application

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio PhD neu MPhil mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae hanes wedi cael ei addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r un hynaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae adnoddau llyfrgell Aberystwyth ymhlith y gorau yn Ewrop ac yn cynnwys deunydd ffynhonnell eang ar gyfer y cyfnod canoloesol, y cyfnod modern cynnar a’r cyfnod modern. Mae Llyfrgell Hugh Owen yn y brifysgol yn cynnwys mwy na 700,000 o gyfrolau, nifer o gasgliadau ymchwil unigryw, ac yn tanysgrifio i fwy na 3,500 o gyfnodolion cyfredol. Mae Llyfrgell Hugh Owen hefyd yn un o ddim ond dwy Ganolfan Ddogfennu Ewropeaidd ddynodedig yng Nghymru ac mae'n cynnwys adnoddau sylweddol ar gyfer haneswyr sydd â diddordeb yn yr Unol Daleithiau.
  • Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ymyl campws y brifysgol, un o bum llyfrgell hawlfraint y DU, sy’n gartref i dros 6,000,000 o gyfrolau ac sy’n cynnig mynediad uniongyrchol i’r holl gyhoeddiadau hawlfraint a gyhoeddir yn y DU. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i lawer o gasgliadau sy'n ymwneud ag Ynysoedd Prydain yn gyffredinol, ac ers ei sefydlu hi yw prif gadwrfa’r byd ar gyfer archifau sy’n ymwneud â hanes Cymru a thu hwnt, a nifer ohonynt yn dal heb eu harchwilio’n fanwl. Ceir rhagor o wybodaeth am adnoddau ymchwil yn Aberystwyth ar ein gwefan.
  • Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a arweinir gan ymchwil sy'n ddefnyddiol i haneswyr nifer o gyfnodau a diddordebau. Mae’r rhain yn cynnwys y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; ac Archifdy Ceredigion.
  • Mae arbenigedd addysgu ac ymchwil yr Adran yn amrywio o'r canol oesoedd i'r cyfnod modern, gyda ffocws penodol ar ddiwylliannau gwleidyddol a hanesyddol, hanes gwyddoniaeth a meddygaeth, a'r cyfryngau yn ogystal â hanes cymdeithasol ac economaidd. Mae ganddi hefyd gysylltiadau agos â chanolfannau astudio hanesyddol eraill yn y brifysgol, ac - trwy gynadleddau, gweithdai a'i chyfres o seminarau ymchwil - yn cynnig mynediad at ystod eang o rwydweithiau ysgolheigaidd rhyngwladol. Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel awdurdodau blaenllaw yn eu priod feysydd.


Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dulliau Darllen MOR0510 10
Principles of Research Design PGM0210 10

Dysgu ac Addysgu

|