Yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yr amcan gwyddonol craidd sy’n sail i’n hymchwil yw datblygu dealltwriaeth o amgylcheddau naturiol a chymdeithasol y Blaned Ddaear, y prosesau sy'n eu llunio, a'r heriau a'r prosesau sy'n deillio o newid cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym yn adran drawsddisgyblaethol, sy'n cwmpasu safbwyntiau a dulliau o feysydd y gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau. Rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar ddisgyblaeth Daearyddiaeth a'i rhyngwyneb â'r Gwyddorau Daear, ond rydym yn ymwneud â disgyblaethau cytras, o archaeoleg i ffiseg i gymdeithaseg, ac yn manteisio ar eu gwaith a chyfrannu atynt.
Mae'r adran yn croesawu cwestiynau gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael prif arolygydd ac ail arolygydd yn seiliedig ar eu diddordebau ymchwil.
Mae ein darlithwyr yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu disgyblaethau. Byddwch yn elwa o gael dysgu’r damcaniaethau a'r technegau daearyddol diweddaraf.
Rydym hefyd ymhlith y deg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y DU o ran grym ymchwil, sy'n rhoi mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal â nifer y staff sy'n ymgymryd ag ymchwil yn yr adran.