PhD

Rheolaeth a Busnes

Cwrs tair blynedd yw rhaglen Doethur (PhD) mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a fydd yn rhoi llwyfan i chi gyflawni ymchwil academaidd gwreiddiol sy'n gwneud cyfraniad newydd i'ch maes astudio penodol. Gallwch wneud darganfyddiadau newydd, profi damcaniaethau newydd, a gwthio ffiniau cyfoes gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae aelodau staff bob amser yn hapus i drafod â graddedigion cymwys ynglŷn â rhaglenni ymchwil PhD ac MPhil addas mewn Rheolaeth a Busnes (yn cynnwys Marchnata a Thwristiaeth).

Fel arfer, dylai’r ymchwil fod yn gysylltiedig ag un o brif feysydd ymchwil yr adran.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, rydym yn denu gweithwyr proffesiynol o bob cwr o'r byd sy'n anelu i fynd i’r afael â heriau'r gymuned fusnes fyd-eang. Mae ein hamgylchedd dysgu deinamig wedi'i drefnu i gefnogi eich datblygiad proffesiynol, ac mae ein cwricwlwm yn defnyddio arbenigedd gweithwyr proffesiynol o bob rhan o fusnes a diwydiant.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Arolygaeth

Mae pob myfyriwr ymchwil yn Aberystwyth yn cael eu rhoi dan ofal tîm arolygu yn cynnwys dau aelod o staff academaidd. Fel arfer bydd y prif arolygydd yn uwch academydd sydd â phrofiad ymchwil sylweddol yn eich darpar faes astudio. Mae addasrwydd yr arolygydd ar gyfer y myfyriwr yn elfen bwysig yn llwyddiant unrhyw raglen PhD.

Technegau Ymchwil

Oni bai eich bod eisoes wedi cwblhau cwrs Meistr ag iddo elfen o hyfforddiant ymchwil cydnabyddedig, bydd angen i chi gwblhau Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Gallwch felly ddatblygu rhagoriaeth mewn technegau ymchwil er mwyn cwblhau eich PhD yn llwyddiannus.

Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gymryd modiwlau uwch astudiaethau ychwanegol yn eich dewis ddisgyblaeth.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Quantitative Data Collection and Analysis (for social scientists) PGM1010 10
Dulliau Darllen MOR0510 10
Manuscript Skills: Post Medieval Palaeographic and Diplomatic PGM1210 10
Principles of Research Design PGM0210 10
Ways of Reading PGM0410 10

Dysgu ac Addysgu

Bydd eich ymchwil yn cael ei dywys gan dîm arolygu, a fydd yn eich cynorthwyo i fireinio eich cynnig ymchwil, a’ch tywys wrth gasglu a dadansoddi data. Ar ddiwedd eich astudiaethau, bydd gennych arholiad viva voce (amddiffyniad llafar o'ch traethawd ymchwil).

|