Mathemateg
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs G1310-
Cymhwyster
PhD
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae mathemateg ymhlith gorchestion pennaf y meddwl dynol. Mae'r pwnc wedi cyfareddu meddylwyr drwy’r oesoedd, o wareiddiadau hynafol bum mil o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae'n ddisgyblaeth fyw, sy'n esblygu; mae ffiniau mathemateg wedi’u hehangu ymhell y tu hwnt i geometreg a damcaniaeth rhif y Groegiaid ac algebra'r Indiaid cynnar ac Islam. Galwyd mathemateg yn "Frenhines y Gwyddorau" gan un o’r mathemategwyr mwyaf erioed, Carl Friedrich Gauss.
Mae’r Adran Fathemateg yn Aberystwyth yn cynnig cyfleusterau i fyfyrwyr astudio ar gyfer graddau PhD ac MPhil trwy ymchwil. Mae rhai syniadau posibl ar gyfer Prosiectau PhD Mathemateg ar gael.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gyrfaoedd
|