PhD

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig nifer o gyfleoedd ymchwil mewn gwahanol feysydd yn ymwneud â Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Mae staff yn ymgymryd ag ymchwil yn y gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU. Wedi'u lleoli yn Adeilad Carwyn James, mae labordai'r Adran yn cynnwys offer o'r radd flaenaf ar gyfer asesiad ffisiolegol, seicolegol a biomecanyddol o berfformiad chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae'r Adran yn weithgar ym maes ymchwil, ac mae aelodau o staff yn cymryd rhan mewn prosiectau amrywiol gan gynnwys gwaith cydweithredol â phrifysgolion a sefydliadau eraill. Mae gan yr Adran gryfderau penodol mewn ffisioleg anadlol a dygnwch, a rôl ymarfer corff mewn iechyd meddwl a lles a seicoleg chwaraeon. Mae gan aelodau o staff academaidd hanes cadarn o gyhoeddi cyfnodolion gwyddonol o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid, yn ogystal â chyfrannu at benodau mewn llyfrau, erthyglau mewn cylchgronau poblogaidd a darllediadau teledu a radio ar faterion sy'n ymwneud â'u gwaith.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Subject to agreement with project supervisor.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants should submit a full research proposal at the point of application

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn ymwneud â dadansoddiad gwyddonol o sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer corff ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n ymwneud â deall gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg i ddarparu'r wybodaeth ddamcaniaethol ac yna cymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd ymarferol.

Mae gwyddor chwaraeon yn ymwneud â chymhwyso gwyddoniaeth i sicrhau’r perfformiad gorau gan athletwr unigol neu dîm, tra bod gwyddor ymarfer corff yn ymwneud â chymhwyso gwyddoniaeth i wella iechyd a lles trwy ymarfer corff. Gallai gwyddonydd chwaraeon ddylunio rhaglen hyfforddi i wella cyflymder rhedwyr rasys pellter hir neu wella gallu tîm pêl-fasged i gynyddu tempo gêm. Gallai gwyddonydd ymarfer corff, ar y llaw arall, ddylunio rhaglen hyfforddi i helpu rhywun i golli pwysau neu wella cryfder eu cyhyrau fel y gall unigolion barhau i gyflawni tasgau dyddiol heb flino.

|