Prif Ffeithiau
Cod Cwrs W4740
-
Cymhwyster
PhD
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Ymgeisio Nawr
Oherwydd bod gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gystal enw rhyngwladol am ei hymchwil cwbl flaengar mae Prifysgol Aberystwyth yn lle delfrydol i astudio ymchwil (naill ar lefel MPhil neu PhD). Mae cymuned uwchraddedig fawr a bywiog yr Adran yn cael ei hystyried yn elfen allweddol o ragoriaeth ymchwil ac addysgu'r Adran.
Mae'r ystod o bynciau a methodolegau a gyflwynir yn eithriadol o eang, gan gwmpasu astudiaethau testunol, archifol, hanesyddol, seiliedig ar ymarfer, empirig ac athronyddol. Mae prosiectau ymchwil yn cynnwys gwaith yn Gymraeg a Saesneg, ac ar draws yr ystod lawn o theatr a drama, astudiaethau perfformio, senograffiaeth, cyfryngau a chyfathrebu, ac astudiaethau ffilm a theledu.
Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.
Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent
Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio
Yn ôl i'r brig
Course Fees:
Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.
Funding:
Funding opportunities may be available, please check our funding calculator for details.
Mae'r Adran yn cynnig cyfleoedd ar gyfer astudio MPhil neu PhD llawn amser neu ran-amser. Cynigir hyfforddiant goruchwylio ac ymchwil yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae arbenigedd goruchwylio ar gael mewn pynciau megis estheteg, gwleidyddiaeth ac ymgysylltu cymdeithasol; perfformio safle-benodol; ecoleg a pherfformio; theatr Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol, ffilm, teledu a chyfryngau ar-lein; theatr gyfoes Prydain ac Iwerddon; theatr ddogfen a gair-am-air; theatr ac athroniaeth; hanesyddiaeth perfformio ac archifo; prosesau cenedlaethol a thrawswladol o gynhyrchu a chyd-destunau derbyn; strwythurau ffilm, y wasg a darlledu; hanesion a pholisïau rheoleiddio; theatr a ffilm amgen, avant-garde ac arbrofol; dramâu teledu, genres ac estheteg; sgriptio; dilynwyr cyfryngau; astudiaethau derbyn a chynulleidfa; ffilm a theledu dogfennol; ffilm a theledu arswyd, ffantasi a chwlt; serendod ffilm a pherfformio; cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau aml-lwyfan; Sinema Brydeinig; Theatr a sinema Rwsia.
Cyfleusterau
- 4 Theatr stiwdio llawn offer
- Stiwdio deledu ddigidol, diffiniad uchel
- 3 ystafell ymarfer
- 36 o ystafelloedd gwylio, recordio a golygu fideos digidol
- Systemau goleuo cyfrifiadurol
- Stiwdio sain ddigidol gydag adnoddau recordio aml-drac a phrosesu effeithiau digidol
- Ystafell astudio myfyrwyr ymchwil gyda chyfrifiaduron pwrpasol, meddalwedd golygu, argraffydd a ffôn.