Cymraeg
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs Q5562-
Cymhwyster
PhD
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Am ganrif a mwy mae Adran y Gymraeg Aberystwyth wedi bod yn ganolfan ymchwil o fri rhyngwladol. Mae arbenigedd ei 8 aelod o staff dysgu yn rhychwantu pob maes a chyfnod yn iaith a llenyddiaeth Cymru yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn cynnig hyfforddiant a goruchwyliaeth i fyfyrwyr ymchwil (MPhil neu PhD), ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â chymwysterau da.
Mae Adran y Gymraeg wedi'i lleoli yn Adeilad Parry-Williams, yn agos i Lyfrgell Hugh Owen sy'n cynnwys casgliadau Cymraeg a Cheltaidd arbennig. Gerllaw mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o'r llyfrgelloedd hawlfraint prin ym Mhrydain. Mae ei llawysgrifau a'i harchifau yn brif adnodd i ysgolheigion Cymru.
Mae gan y Brifysgol ddiwylliant uwchraddedig bywiog: cynhelir seminarau ymchwil rheolaidd yn Adran y Gymraeg ac mewn adrannau eraill, a gall myfyrwyr hefyd fynychu seminarau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae digonedd o gyfleodd ar gael i ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg ac i ymarfer Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban gyda graddedigion ac israddedigion eraill mewn grwpiau anffurfiol.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Principles of Research Design | PGM0210 | 10 |
Ways of Reading | PGM0410 | 10 |
|