PGCE

Ieithoedd Modern (Sbaeneg)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Mae mwy a mwy o alw am athrawon i ddysgu Ieithoedd Modern. Yn Aberystwyth, bydd ein cwrs TAR Ieithoedd Modern (Sbaeneg) yn archwilio sut y byddwch yn dysgu iaith i ddechreuwyr nad yw Saesneg o reidrwydd yn iaith gyntaf iddynt. Ym Mhartneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Aberystwyth, cewch eich hyfforddi i addysgu eich iaith fodern arbenigol, neu hyd yn oed gyfuniad o ieithoedd. Bydd y cwrs yn dysgu’r dull o ddysgu iaith wedi’i gymhwyso i’ch arbenigedd neu arbenigeddau chi, e.e. Ffrangeg a/neu Sbaeneg, Sbaeneg a/neu Ffrangeg. Trwy weithio ym maes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, byddwch yn hyfforddi i addysgu disgyblion uchelgeisiol, medrus a hyderus sydd â gwybodaeth a hyder am y byd y tu hwnt i’r ysgol ac am y wlad y maent yn ei hastudio. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Rhaid i o leiaf 50% o gynnwys y radd Baglor fod yn gysylltiedig ag Ieithoedd Tramor. Gellir hefyd ystyried ymgeiswyr sy'n meddu ar radd Baglor (Anrhydedd) mewn pwnc arall, ond sy'n siarad Sbaeneg yn rhugl.

Gofynion Iaith Saesneg Sylwch fod hwn yn gwrs cant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynion Eraill TGAU Gradd C naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith (Iaith Gyntaf). Mae hefyd angen Gradd C am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Mae cymwysterau eraill sy’n dangos cyflawniad ar yr un lefel yn dderbyniol. Cysylltwch â staff Derbyn TAR am fanylion: ellstaff@aber.ac.uk. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Tuition fees: Tuition fees for PGCE courses are regulated by Welsh Government and are set in line with undergraduate tuition fees.  

Financial support: Welsh Government offers incentives for students training to teach certain priority subjects. In addition, Student Finance Wales offers help with the cost of your teacher education if you’re studying one of our full-time PGCE programmes. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol.  

Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs.  

Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Sbaeneg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Dysgu a Chyfathrebu a byddwch yn cydweithio . Myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu iaith a llenyddiaeth i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys manylebau TGAU ac UG/Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth. 

Cynhelir y lleoliadau mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle mae gan ysgolion gysylltiadau agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn y lleoliad, byddwch yn cydweithio'n agos â'ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu.  

Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, byddwch yn cael cyfnod byr ar leoliad mewn ysgol gynradd ac yn cydweithio ag athrawon cynradd medrus. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil gweithredol i ddatblygu agwedd ar eich ymarfer a dechrau eich gyrfa fel athro sy'n seilio ymarfer ar ymchwil.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Addysgeg Effeithiol AD31630 30
Astudiaethau Proffesiynol ADM1330 30
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm AD31530 30
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu ADM1430 30

Gyrfaoedd

Mae cwblhau TAR yn un ffordd o ddod yn athro cymwysedig llawn. Argymhellir y math hwn o hyfforddiant athrawon i unrhyw un sydd â gradd israddedig ac sy'n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).  

Mae angen SAC arnoch i addysgu yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr. Er bod llwybrau eraill i ennill SAC, nid yw pob un yn arwain at gymhwyster ôl-raddedig TAR. Mae TAR o Brifysgol Aberystwyth yn gymhwyster gwerthfawr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  

Pan fyddwch yn astudio cwrs TAR gyda ni, rydym yn eich cynorthwyo i baratoi am yrfa lwyddiannus mewn addysg. Fe gewch gyfeiriad clir, cyngor a chymorth wrth wneud ceisiadau am swyddi ac mae cyfraddau ein myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i swydd yn gyson uchel. 

Cymorth gyda gyrfa  

Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig gwasanaeth gydol oes i'r holl raddedigion, a gall y tîm ymroddedig o ymgynghorwyr Gyrfaoedd sydd gennym barhau i'ch cefnogi ble bynnag y byddwch ar ôl i chi orffen eich astudiaethau yn Aberystwyth.   

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cwrs TAR mewn Sbaeneg yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Raddedig.   

Yn draddodiadol, mae'r cwrs yn para o fis Medi i ddiwedd mis Mehefin. Bydd athrawon dan hyfforddiant ar leoliad mewn ysgolion am 26 wythnos. Dan arweiniad tiwtoriaid y Brifysgol a mentoriaid ysgol hyfforddedig, bydd hyn yn cynnwys addysgu yn yr ystafell ddosbarth a chyflawni gwahanol weithgareddau yn yr ysgol. Bydd yr elfen o’ch cwrs a addysgir yn cael ei chyflwyno mewn wyth wythnos a dreulir yn y Brifysgol. Y Brifysgol sy’n trefnu'r holl leoliadau ysgol. Yn ystod eich lleoliad byddwch yn cael cyfle i addysgu, cynllunio eich gwersi, ac mewn rhai achosion cymryd rhan yn yr elfen gofal bugeiliol o waith athrawon, ymhlith dyletswyddau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod wir wedi mwynhau'r profiad a'u bod yn cael eu derbyn yn llwyr yn rhan o amgylchedd yr ysgol.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ar y cwrs, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phrosiect ymchwil gweithredol. Ni cheir arholiadau ffurfiol. Cynhelir asesiad parhaus o ymarfer ym mhob un o'r tri lleoliad  

|