MSc

Peirianneg y Gofod

Yr MSc mewn Peirianneg y Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r dewis perffaith i raddedigion sydd â gradd gyntaf mewn pwnc STEM ac sy’n awyddus i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau perthnasol i Fforio’r Gofod. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr mewn Gwyddor a Thechnoleg y Gofod a chewch gyfle i wneud gwaith prosiect ochr yn ochr ag ymchwilwyr gweithredol sy’n aelodau o dimau rhyngwladol a chyrchoedd gofod sy’n astudio’r Haul, y Lleuad, planedau ac ecsoblanedau. 

Nod sector y gofod yn y Deyrnas Gyfunol yw sicrhau 10% o’r farchnad ofod fyd-eang yr amcangyfrif ei bod werth £400 biliwn y flwyddyn erbyn 2030, ac yma yng Nghymru, y targed yw 5% o’r farchnad (Cymru: gwlad ofod gynaliadwy, 2022). O ganlyniad mae angen parhaus am raddedigion peirianneg â chymwysterau priodol a gallu technegol yn sector y gofod a sectorau cysylltiedig. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn ymchwil yn ogystal â’r rheini sy’n dymuno ehangu eu sgiliau proffesiynol i gael gyrfa mewn diwydiant. Bydd yn eich paratoi am yrfa lwyddiannus yn asiantaethau gofod y DG ac yn rhyngwladol, y sectorau amddiffyn a meysydd cysylltiedig. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd MSc Peirianneg y Gofod yn rhoi cyfle i chi fynd i’r afael â heriau Fforio’r Gofod. Byddwch yn gwneud gwaith prosiect ochr yn ochr ag ymchwilwyr gweithredol y mae eu cyrhaeddiad byd-eang yn gwneud hwn yn gwrs gwirioneddol ryngwladol sy’n croesi cyfandiroedd. Nodweddion craidd y cwrs newydd cyffrous hwn yw arbenigedd staff mewn modelu, delweddu, arbrofi ar y tir ac offeryniaeth y gofod (gydag arbenigedd mewn ffotoneg a roboteg), gan ddod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynghyd sy’n croesi ar draws gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a busnes yn y Brifysgol. 

Mae amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi ar Gysawd yr Haul a thu hwnt ynghyd â gwerthfawrogiad o’r dechnoleg a’r sgiliau sydd eu hangen i fforio’r gofod all-ddaearol, gan gynnwys dylunio, arsylwi, mesur, dadansoddi, cyfathrebu a rheoli prosiect. 

Mae ymchwilwyr Aberystwyth ar y blaen gyda fforio’r gofod, gan ymwneud â chyrchoedd o’r Haul i Sadwrn, ac erbyn hyn ymhellach fyth gyda’n hymchwil ecsoblanedol. Gyda’n cysylltiadau strategol ag Asiantaeth Gofod y DG ac asiantaethau gofod rhyngwladol, fel Asiantaeth Gofod Ewrop, rydym mewn lle da yn y sector i ymwneud â chyrchoedd fforio’r gofod yn y dyfodol ac i ddarparu cysylltiadau diwydiant i’n myfyrwyr. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Math o radd: MSc 

Cod y cwrs: FH57 

Amser cyswllt: Tua 10-14 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna amser cyswllt y cytunir arno gyda’r arolygydd a neilltuir i chi. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch wedi ennill lefel uwch o wybodaeth a dealltwriaeth am beirianneg y gofod a fforio'r gofod, a sgiliau ychwanegol mewn ymchwil, dadansoddi beirniadol a dehongli data, datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau a rhoi cyflwyniadau. 

Bydd graddedigion y radd mewn lle da i gael eu cyflogi yn beirianwyr, ymgynghorwyr, rheolwyr neu ymchwilwyr yn sector y gofod a diwydiannau’r gofod. 

Dysgu ac Addysgu

Dyma'r modiwlau craidd y mae'n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn:

  • Advanced Planetary Exploration  
  • Advanced Research Skills  
  • Professional and Research Skills 
  • MSc Project. 

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau dewisol o ddetholiad sydd ar gael, sy'n cynnwys ar hyn o bryd:

  • EM Theory & Microwave Devices  
  • Fundamentals of Intelligent Systems  
  • Quality & Engineering Management 
  • Project Management Tools and Techniques 
  • Programming for Scientists 
  • International Strategy and Operations 
  • Leading and Managing Projects 
  • Machine Learning for Intelligent Systems  
  • Computational Intelligence.

Dulliau addysgu 

Yn ystod y ddau semester cyntaf (Medi – Mai) fel arfer bydd gennych un seminar dwy awr ym mhob modiwl. Bydd sesiynau ychwanegol hefyd yn gweithio ar ddatblygu eich traethawd hir. Yn ystod semester 3 cewch gymorth gan arolygydd eich prosiect hir; byddwch yn cytuno ar amser cyswllt rhyngoch. 

Dulliau asesu 

Cewch eich asesu trwy ymarferion gweithdy, enghreifftiau, adroddiadau technegol, adroddiadau ffurfiol, cyflwyniadau ac arholiadau. 

|