MSc

Garddwriaeth Gynaliadwy

Rhaglen ddysgu o bell yw’r MSc mewn Garddwriaeth Gynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai hynny sy’n ymarfer garddwriaeth yn eu gwaith ac eisiau datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn garddwriaeth wyddonol, arloesi, cadwraeth a chynaliadwyedd. Mae hefyd yn addas ar gyfer rhai sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa arddwriaethol neu newid i yrfa o’r fath, sydd am wella eu cyflogadwyedd trwy ennill cymhwyster uwchraddedig, neu i rai sydd â diddordeb mwy cyffredinol yn y pwnc. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Cynigir y cwrs MSc Garddwriaeth Gynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, Canolfan y Dechnoleg Amgen.  Bydd myfyrwyr yn elwa o’r traddodiad hir ym Mhrifysgol Aberystwyth o wneud ymchwil arloesol ym maes gwyddor planhigion. Byddant yn cael budd o arbenigedd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol wrth drin planhigion, eu lledaenu a’u cadwraeth, ac yn manteisio ar agwedd Canolfan y Dechnoleg Amgen tuag at gynaliadwyedd, sydd yn uchel ei pharch yn fyd eang. Mae pob un o’r sefydliadau yn arwain y byd yn eu meysydd arbenigedd priodol. Bydd y dull cydweithredol hwn yn arfogi garddwriaethwyr y dyfodol i gyfrannu at lunio sector garddwriaeth mwy cynaliadwy. 

Gellir astudio'r cwrs hwn yn gyfan gwbl o bell gyda'r opsiwn o gynnwys modiwlau preswyl yng nghanolfan addysg amgylcheddol Canolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghymru. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Rhaglen ddysgu o bell ar-lein yw hon, y gellir ei chwblhau mewn 2-5 mlynedd, a gellir dechrau ym mis Medi, Ionawr a Mai.

Gellir cymryd y modiwlau a ddarperir gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen naill ai fel modiwlau dysgu o bell neu fodiwlau preswyl rhyngweithiol.

Gellir astudio’r modiwlau fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus neu o ran eich diddordeb eich hun neu gellir eu cyfuno fel rhan o gymwysterau uwchraddedig amrywiol. I gwblhau'r MSc llawn, rhaid i chi wneud y modiwlau craidd canlynol: 

·       Introduction to Sustainability and Adaptation

·       Sustainability and Adaptation Concepts and Practice

·       Gwyddor Garddwriaethol

·       Conservation Horticulture

Yn ogystal â’r modiwl Dulliau Ymchwil a'r Traethawd Hir gorfodol, ynghyd â'ch dewis chi o’r detholiad sydd ar gael o fodiwlau dewisol:

·       The Science of Sustainable Food Production

·       Food Production and Consumption 

·       Restoration Ecology 

·       Ecological Assessment  

·       Bridio Planhigion

·       Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir

·       Life Cycle Assessment and Beyond

·       Sustainable Supply Systems 

Gyrfaoedd

Mae gyrfaoedd mewn garddwriaeth yn cwmpasu cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurniadol, ynghyd â chadwraeth planhigion a dylunio, sefydlu a chynnal mannau agored fel parciau, gerddi, meysydd hamdden a chaeau chwaraeon. Mae'r angen i ddatblygu dulliau mwy cynaliadwy o gynhyrchu a chludo bwyd, gwarchod bioamrywiaeth a rheoli ein mannau agored yn gofyn am ymchwilwyr garddwriaethol, technolegwyr, arbenigwyr marchnata a rheolwyr yn ogystal â thyfwyr a thirlunwyr arloesol, sydd â gwerthfawrogiad treiddgar o effeithiau amgylcheddol eu diwydiant. 

Dysgu ac Addysgu

Byddwch yn cymryd cyfanswm o 85 credyd o fodiwlau craidd a 35 credyd o fodiwlau dewisol o’r detholiad eang sydd ar gael, gan gwmpasu pynciau megis gwyddor garddwriaethol a chadwraeth, cynaliadwyedd, bridio planhigion, cynhyrchu bwyd, ecoleg ac asesu cylch bywyd. Gellir gwneud y gwaith ymchwil ar gyfer eich traethawd hir 60 credyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru neu yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, gan ddibynnu ar eich dewis o  arbenigedd.

Disgwylir i fyfyriwr uwchraddedig astudio am 200 awr wrth ddilyn modiwl 20 credyd. Dylech ddisgwyl treulio 2-3 awr yr wythnos yn fras ar ddarlithoedd, cyflwyniadau a phodlediadau ar-lein, a gweddill yr amser ar ddarllen ac aseiniadau. Po fwyaf o amser ac ymdrech y gallwch chi ei roi i mewn, y mwyaf y byddwch chi'n elwa o astudio'r modiwl a'r gorau mae'ch graddau'n debygol o fod.

Fel arfer, cynhelir yr astudiaeth breswyl ryngweithiol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen dros gyfnod o wythnos. Bydd myfyrwyr sy’n dysgu o bell yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn darlithoedd a seminarau wedi'u ffrydio'n fyw ar-lein neu eu gwylio ar adeg sy'n gyfleus iddynt hwy. 

Aseiniadau

Nid oes arholiadau yn y rhaglen hon. Asesir y modiwlau a ddysgir drwy waith cwrs, megis adroddiadau, traethodau, tasgau rhyngweithiol (gan gynnwys cyflwyniadau), astudiaethau achos a chynlluniau busnes. 

|