Cynradd (3-11)
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs 3DHL-
Cymhwyster
PGCE
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Nod y cwrs TAR Cynradd yw rhoi i athrawon dan hyfforddiant y sgiliau proffesiynol y bydd arnynt eu hangen i ddod yn athrawon llwyddiannus sy’n gallu ennyn diddordeb pob dysgwr ac arwain dysgu ledled yr ystod oedran mewn ysgolion cynradd. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o ddatblygiad a dysgu plant ar hyd y cyfnod Sylfaen ac ystod oedran uwch disgyblion cynradd. Gan weithio ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, byddwch yn gweithio gydag ymarferwyr medrus a phrofiadol a byddwch yn cael eich hyfforddi i ddysgu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n llawn gwybodaeth ac yn hyderus am y byd y tu hwnt i'r ysgol. Mae hwn yn gwrs arloesol, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o ddilyniant disgyblion i gamau nesaf eu haddysg drwy gyfrwng profiadau penodol o gyfnodau addysg eraill.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2023
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Addysgeg Effeithiol | AD31630 | 30 |
Astudiaethau Proffesiynol | ADM1330 | 30 |
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm | AD31530 | 30 |
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu | ADM1430 | 30 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
|