MA

Rhyfel, Strategaeth a Chuddwybodaeth

Bydd y radd hon yn rhoi ichi'r sgiliau a'r wybodaeth gysyniadol ac empirig angenrheidiol i ddeall, trafod a beirniadu ffenomena rhyng gysylltiedig rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Trwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn ymwneud â meysydd amrywiol y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau er mwyn deall ffenomenon rhyfel a'r ymdrech dragwyddol ond anghaffaeladwy am ddiogelwch sy'n un o nodweddion cysylltiadau rhyngwladol. Wrth ichi ystyried meysydd megis hanes milwrol, diogelwch, cudd-wybodaeth, astudiaethau strategol a chysylltiadau rhyngwladol, byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r offer dadansoddi angenrheidiol i ddeall cysyniadau rhyfel a rhyfela, yr amrywiol strategaethau a ddefnyddir i ryfela a'r offer cudd-wybodaeth a ddefnyddir i lywio'r strategaethau hynny.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Normally a 2:1 Bachelors (Honours) or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae rhyfel wedi bod wrth wraidd profiad pobl ers dechrau cymunedau

gwleidyddol, ac mae'n dal i fod yn nodwedd barhaus ar y system

ryngwladol ac ar lawer o wladwriaethau a chymdeithasau.

O Sun Tzu i ‘Shock ‘n’ Awe’, mae'r radd hon yn datblygu eich dealltwriaeth gysyniadol ac empirig o'r defnydd o rym mewn cysylltiadau rhyngwladol. Yn yr 21ain ganrif, â'r gobeithion wedi'r Rhyfel Oer am 'Drefn Fyd-eang Newydd' bellach yn pylu, mae'r ofnau ynghylch rhyfeloedd mawr ar lefel ranbarthol a hyd yn oed ar lefel fyd-eang yn cynyddu. Mae'r radd hon yn pwyso a mesur y materion strategol pwysicaf sy'n wynebu'r byd heddiw, ac yn dadansoddi natur esblygol rhyfel a gwrthdaro, o’r gystadleuaeth draddodiadol rhwng y pwerau mawrion i fathau modern ar ryfela hybrid. Mae'r drwgdeimlad o'r newydd rhwng Rwsia a'r Gorllewin, y cynnydd o ran tensiynau yn y Dwyrain Canol a De Asia, ymwthgarwch milwrol cynyddol Tsieina, a'r gwrthdaro treisgar parhaus o fewn gwladwriaethau ledled y byd yn dangos yr angen o hyd am ddealltwriaeth gadarn a beirniadol o ddynameg rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn.

Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae llawer o yrfaoedd yn agored i’n graddedigion. Mae graddedigion blaenorol yr Adran hon wedi mynd ymlaen i weithio:

  • yn y sector datblygu 
  • mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • yn y Gwasanaeth Diplomyddol 
  • yn y Gwasanaeth Sifil 
  • ar gyfer Cyrff Anllywodraethol 
  • gyda sefydliadau rhyngwladol
  • fel newyddiadurwyr 
  • ym myd academaidd 
  • fel ymchwilwyr llywodraethol a chymdeithasol 
  • ar gyfer Swyddfeydd Tramor 
  • yn y fyddin 
  • mewn swyddi arwain ym myd busnes/diwydiant (Prif Swyddogion Gweithredol/Cadeiryddion) 
  • fel cynorthwywyr gwleidyddol, fel athrawon, cyfreithwyr a chyfrifwyr.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r radd Meistr hon yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi cryf, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol - mae’r rhain yn rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi pwys mawr arnynt. Mae Gradd Meistr hefyd yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr â’u bryd ar gynnal ymchwil PhD. Bydd yr MA hwn yn eich grymuso i: 

  • ddatblygu eich galluoedd wrth roi trefn ar syniadau cymhleth yn effeithlon, a’u cyfathrebu’n effeithlon 
  • ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, a siarad â’r cynulleidfaoedd hynny 
  • cloriannu a threfnu gwybodaeth 
  • cydweithio'n effeithiol ag eraill 
  • gweithio o fewn amserlenni penodol.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Yn ystod y ddau semester cyntaf (Medi i Fai), bydd gennych fel arfer un seminar 2 awr fesul modiwl yr wythnos. Bydd gennych hefyd gyswllt â staff academaidd wrth ichi gymryd rhan mewn grwpiau ymchwil, seminarau ymchwil yr Adran, gweithdai Meistr a thrwy’r oriau cyswllt â’r staff (dwy sesiwn awr eu hyd bob wythnos). Bydd sesiynau ychwanegol hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu eich traethawd hir. Yn ystod y trydydd semester byddwch yn pennu faint o amser y byddwch yn ei dreulio â’r sawl sy’n arolygu eich traethawd hir.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn dewis o blith casgliad o fodiwlau ar astudiaethau rhyfela, gwleidyddiaeth a diogelwch, gan eich galluogi i deilwra'ch cwrs i'ch diddordebau penodol.

Asesu

Bydd yr asesu’n digwydd drwy gyfuniad o draethodau, gwaith project, adroddiadau byr, adolygiadau llyfrau a thraethawd hir. Gan ddibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd, gall yr asesu gynnwys cyflwyniadau seminar, traethodau adolygu a chwiliadau llenyddiaeth.

|