MPhil

Cymraeg

Am ganrif a mwy mae Adran y Gymraeg Aberystwyth wedi bod yn ganolfan ymchwil o fri rhyngwladol. Mae arbenigedd ei 8 aelod o staff dysgu yn rhychwantu pob maes a chyfnod yn iaith a llenyddiaeth Cymru yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn cynnig hyfforddiant a goruchwyliaeth i fyfyrwyr ymchwil (MPhil neu PhD), ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â chymwysterau da.

Mae Adran y Gymraeg wedi'i lleoli yn Adeilad Parry-Williams, yn agos i Lyfrgell Hugh Owen sy'n cynnwys casgliadau Cymraeg a Cheltaidd arbennig. Gerllaw mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o'r llyfrgelloedd hawlfraint prin ym Mhrydain. Mae ei llawysgrifau a'i harchifau yn brif adnodd i ysgolheigion Cymru.

Mae gan y Brifysgol ddiwylliant uwchraddedig bywiog: cynhelir seminarau ymchwil rheolaidd yn Adran y Gymraeg ac mewn adrannau eraill, a gall myfyrwyr hefyd fynychu seminarau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae digonedd o gyfleodd ar gael i ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg ac i ymarfer Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban gyda graddedigion ac israddedigion eraill mewn grwpiau anffurfiol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available, please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar gyfer y graddau hyn gellir dewis unrhyw bwnc o holl faes llenyddiaeth ac iaith Gymraeg. Mae ymchwilwyr yn y blynyddoedd diweddar wedi gweithio ar bynciau mor amrywiol ag: enwau personol dynion yng Nghymru, Cernyw a Llydaw, 400-1400AD; gwrywdod a llenyddiaeth Gymraeg o'r oesoedd canol; gwisgoedd mewn llenyddiaeth ganoloesol c1100-c1600; canu cynnar Guto’r Glyn; llên gwerin Gwylliaid Cochion Mawddwy; barddoniaeth Lewis Morris; nofelau Lleifior Islwyn Ffowc Ellis; agweddau ar nofelau Marion Eames; a chyfraniad Myrddin ap Dafydd fel ffigwr diwylliannol. Gall myfyrwyr dynnu ar yr amrediad eang o arbenigedd academaidd a ddarperir gan staff yr Adran yn y Gymraeg ac yn yr ieithoedd Celtaidd eraill.

|