BA

Dylunio Theatr a Pherfformio

BA Dylunio Theatr a Pherfformio Cod 064W Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Dan arweiniad ymarferwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae'r cynllun gradd Dylunio Theatr a Pherfformio a gynigir gan yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio ymagwedd ffres a radicalaidd tuag at ddylunio ym maes perfformio. Mae'n edrych y tu hwnt i ffiniau sefydledig dylunio sain, setiau, gwisgoedd a goleuo, er mwyn cael golwg gyffredinol o ofod perfformio fel maes artistig mynegiannol ynddo'i hun. Nid gradd am 'sut mae gwneud' yw hon, ond ymchwil i sut gellid gwneud.

Drwy gyfuno archwiliadau ymarferol a damcaniaethol, byddwch yn archwilio'n feirniadol ac yn ymgysylltu ag ystod eang o arferion cyfoes, o theatr chwaraedy i berfformiadau penodol i safle, ac o theatr amgylcheddol i osodwaith perfformiadau. Wrth i'r cwrs ddatblygu, mae'r astudio'n canolbwyntio'n fwy ar eich ymarfer chi fel artist annibynnol, gan gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch chi wedi'u meithrin i greu gwaith sy'n ffres, yn radicalaidd, ac yn fynegiannol i chi, o fewn neu'r tu hwnt i gyd-destun theatr a pherfformio.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Dylunio Theatr a Pherfformio yn Aberystwyth?

  • Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio ymagwedd radicalaidd ac arloesol tuag at ddylunio perfformiadau a theatr.
  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o ddylunwyr ac arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
  • Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Mae pob myfyriwr yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'i gilydd.
  • Fel adran, bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Mae'r partneriaid creadigol hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio.
  • Mae gan fyfyrwyr yr adran fynediad at ein cyfleusterau a'n hadnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau Clyweledol Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd.
  • Ar ein campws mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis.
  • Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd gan bob myfyriwr gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio neu waith dramor.


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Design Skills TP11820 20
Theatre Technologies TP19820 20
Theatre and Performance Design in Context TP10020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Scenography Site Project TP11720 20
Theatre Technologies 2 TP19920 20
Making Short Films 1 FM11520 20
Movements in Film History FM11120 20
Site-Specific Performance Project TP11420 20
Studying Film FM10120 20
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Principles of Scenography TP22320 20
Scenographic Composition TP22520 20
Scenography Production Project TP24740 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Directors' Theatre TP21820 20
New Media Performance TP23820 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Theatre Design Project TP22620 20
Theatre and Contemporary Society TP20820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Scenographic Project TP35940 40
Advanced Studio Practice (scenography) TP31240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Drama TP30020 20
Independent Research Project TP36040 40
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Place, Space and Landscape TP32820 20
Playwriting TP33340 40

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Dylunio Theatr a Pherfformio?

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • dylunio gwisgoedd, setiau a goleuo
  • dylunio cynyrchiadau a chyfarwyddo celf
  • rheoli llwyfan
  • addysgu a maes addysg
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • marchnata
  • rheoli a chydlynu prosiectau
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr ar y radd hon yn meithrin sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • casglu, dosbarthu a dehongli deunydd esthetig a deallusol yn annibynnol ac yn feirniadol
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithlon ac yn greadigol ar lafar, yn ysgrifenedig, yn weledol ac yn berfformiadol i ystod o gynulleidfaoedd
  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu amser yn effeithiol a defnyddio sgiliau
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu eu hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio

  • dulliau o ddylunio senograffeg yn y stiwdio ac ar safle
  • cysyniadau, methodolegau a dulliau senograffig allweddol
  • swyddogaeth dylunio mewn digwyddiad theatraidd ehangach.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • y pedair elfen senograffig sylfaenol, sef gofod, goleuo, sain a chorff
  • damcaniaethau ac arferion archwilio senograffig
  • teclynnau a dulliau ar gyfer cyfansoddiad senograffig
  • sut i lunio, datblygu a chyflawni prosiect dylunio theatr cydlynol
  • sut i lunio, datblygu a gwireddu dyluniad ar y cyd ar gyfer cynhyrchiad adrannol
  • dadansoddi, gwerthuso a deall senograffeg a dylunio theatr
  • datblygu sgiliau arbenigol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynrychioli a chyfathrebu cysyniadau senograffig
  • modiwlau dewisol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Theatr y Cyfarwyddwr: Llwyfannu Drama Fodern: Perfformio Shakespeare a Pherfformio yn y Cyfryngau Newydd.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gyflawni'r canlynol:

  • creu gwaith creadigol annibynnol uwch, sy'n eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol
  • datblygu arbenigedd mewn un elfen o senograffeg
  • creu portffolio personol electronig sy'n dogfennu eich gwaith
  • cynnal prosiect ymchwil sylweddol
  • astudio modiwlau arbenigol dewisol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys: Gofod, Lle a Thirlun; Perfformio a Phensaernïaeth; Dramayddiaeth Theatr Gerdd; a Theatr, Rhywedd a Rhywioldeb.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu yn bennaf ar ffurf gweithdai ymarferol mewn grwpiau bach, tiwtorialau, gwaith prosiect grŵp, a phrosiectau cynhyrchu.
  • Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy arfer ac ymchwil ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol.
  • Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf prosiectau perfformio senograffig, cyflwyniadau grŵp, prosiectau cysyniadol, prosiectau dylunio, traethodau ffurfiol, arholiadau ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, a chyflwyniadau seminar.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Dylunio Theatr a Pherfformio yn galluogi dylunwyr newydd, ifanc a brwdfrydig i gymryd eu camau cyntaf tuag at newid sut rydyn ni'n edrych ar y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael cyfleoedd di-ben-draw i greu ac i herio ideolegau dylunio sy'n bodoli, sy'n eu galluogi nhw nid yn unig i ddod o hyd i'r canlyniad gorau, ond i ddarganfod arddull y dylunydd maen nhw am fod. Mae dylunio bobman. Boed chi am fynd i'r diwydiant digwyddiadau, teledu, pensaernïaeth neu farchnata, dylunio yw'r elfen ofynnol gryfaf.

Tabitha Thomas

Ers graddio, dw i wedi bod yn byw yn Llundain. Rydw i wedi gweithio i Wicked!, sioe gerdd sydd wedi ennill sawl gwobr, yn Theatr Apollo fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ac fel Gwisgwr. Heblaw am fy ngwaith ar Wicked!, rydw i'n gweithio'n llawrydd fel Cynorthwyydd Gwisgoedd ar ystod o gynyrchiadau theatr, gan gynnwys The Railway Children (Waterloo Station), gan weithio'n agos gyda dylunwyr a goruchwylwyr gwisgoedd i wireddu eu gwaith ar y llwyfan. Mae hyblygrwydd a strwythur y radd Senograffeg a Dylunio Theatr, wedi'u cyfuno ag arbenigedd y tiwtoriaid, yn golygu eich bod chi nid yn unig yn teimlo fel eich bod chi'n cael gradd ystyrlon wedi'i chrefftio'n bwrpasol, ond cwrs sy'n addysgu'r sgiliau a'r fethodoleg angenrheidiol i weithio yn y diwydiant. Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle heintus i astudio (ac i chwarae!), gyda staff anhygoel, ardal ysbrydoledig, cyfleoedd di-ben-draw, a ffrindiau oes. Bydden i'n ei argymell yn sicr.

Ed Parry

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|