Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygiad Bydeang
BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygiad Bydeang Cod 13LL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023
Prif Ffeithiau
13LL-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
80%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrAr y cwrs gradd BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygiad Byd-eang yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe gewch chi'r cyfle i archwilio sut y gwelir cysylltiadau rhyngwladol wrth edrych arnynt o'r tu hwnt i'r byd datblygedig.
Bydd y cwrs hwn yn herio naratifau Gorllewinol-ganolog gwleidyddiaeth ryngwladol gan ystyried y rhyng-gysylltiadau rhwng y gwladwriaethau datblygedig a'r rhai sy'n datblygu, ymchwilio i faterion a lleisiau sy'n cael llai o sylw, ac ymchwilio i'r grymoedd byd-eang sy'n tyfu yn America Ladin, De Asia a'r Dwyrain Canol. Byddwch hefyd yn archwilio themâu allweddol megis gwladychiaeth, anghydraddoldeb, datblygiad, rhywedd, hunaniaeth, economi wleidyddol, diwylliant, hil, crefydd, gwrthsafiad a mudiadau cymdeithasol.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2023
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd | GW12420 | 20 |
Globalization and Global Development | IP12520 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Y Tu ôl i'r Penawdau | GW12620 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Politics in the 21st Century | IP12920 | 20 |
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 | IP12820 | 20 |
War, Strategy and Intelligence | IP10320 | 20 |
Y Tu ôl i'r Penawdau | GW12620 | 20 |
Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle | CY11020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
International Politics and Global Development | IP29220 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Dissertation | IP30040 | 40 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|