Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)
Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 163I Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
163I-
Tariff UCAS
128 - 120
-
Hyd y cwrs
5 mlynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
25%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMewn byd sy'n anelu am sero net, a byd o ddatblygiadau meddygol arloesol, a llawer o ddyfeisiau a systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol. Erbyn 2030, yn ôl yr IEA yn y ddogfen World Energy Outlook (2021), bydd yr agenda carbon isel yn creu 13.3 miliwn o swyddi newydd yn fyd-eang a bydd angen galluoedd ym maes peirianneg drydanol ac electronig ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi hynny.
Bydd ein cynllun gradd Meistr mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn datblygu eich sgiliau hanfodol, o electroneg analog a digidol i gymwysiadau bywyd go iawn, er enghraifft cyfathrebu ac ynni adnewyddadwy.
Yn y rhaglen radd hon yn Aberystwyth, gan gadw cyflogadwyedd mewn cof, rydym yn gwreiddio agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau fel y bydd gan ein myfyrwyr ar ôl graddio yr hyder, y galluoedd a'r wybodaeth i gyflawni eu haddewid yn effeithiol yn y meysydd hynod broffidiol hyn, p'un a ydynt mewn swydd ddiwydiannol neu fasnachol, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at y byd sydd ohoni a’i newidiadau cyson.
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) fel y bydd y radd newydd hon yn gymwys i dderbyn achrediad IET pan fydd y garfan gyntaf yn graddio yn 2030. Bydd achrediad IET yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr IET bryd hynny.
Mae'r cwrs hwn ar agor i’r rhai sydd am gychwyn ym mis Medi 2025.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Algebra a Hafaliadau Differol | FG16210 | 10 |
Analogue and Digital Electronics | EE11020 | 20 |
Calcwlws | MT10610 | 10 |
Communication and Technology | PH19510 | 10 |
Trydan, Magneteg a Mater | FG11120 | 20 |
Cyflwyniad i Raglennu | CC12020 | 20 |
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd) | FG15720 | 20 |
Laboratory Techniques for Experimental Physicists and Engineers (30 Credits) | PH15030 | 30 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ffiseg Mathemategol | FG26020 | 20 |
Sgiliau Ymchwil Ymarferol | FG25720 | 20 |
Robotics and Embedded Systems | CS26020 | 20 |
Sensors, Electronics & Instrumentation | PH24520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Engineering Control Theory | PH33310 | 10 |
Fundamentals of Machine Learning | CS36110 | 10 |
Systems Engineering | CS33020 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 120
Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Physcis and B in Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Physics and 5 points in Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 Physics and Mathematics
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|