BA

Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)

BA Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) Cod 242L Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'n gyfnod heriol ond diddorol yng ngwleidyddiaeth y byd. Rydym yn gwahodd ein myfyrwyr i drin a thrafod gwleidyddiaeth y byd – a dysgu sut i lunio ei dyfodol orau. A ninnau’n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, rydym wedi arloesi ym maes astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ers dros gan mlynedd, ac rydym yn parhau i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf y byd, megis ansefydlogrwydd niwclear, newid yn yr hinsawdd, anghyfartaledd byd-eang a gwanhad sefydliadau rhyngwladol.

Bydd y radd hon mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) yn rhoi cyfle ichi astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanes a'r rhanbarthau sy'n ffurfio gwleidyddiaeth ryngwladol fel disgyblaeth, gydag opsiwn i astudio yn un o'n prifysgolion partner draws Gogledd America, Ewrop, ac Asia a’r Môr Tawel.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymeidmlad gwirioneddol o gymuned.
  • Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y cysyniadau, y polisïau a'r hanesion sy'n rhan o gysylltiadau rhyngwladol fel disgyblaeth.
  • Byddwch yn dysgu sut i asesu digwyddiadau byd-eang o amrywiaeth o safbwyntiau ac i edrych ‘y tu ôl i’r penawdau’ i ddarganfod y ddeinameg ddyfnach sy’n gyrru gweithredoedd gwledydd, arweinwyr ac ymgyrchwyr.
  • Gallwch astudio deinameg wleidyddol megis cenedlaetholdeb neu'r economi fyd-eang, dysgu am ddatblygiad a gwaddolion trefedigaethol, ystyried safbwyntiau gwahanol fel rhyddfrydiaeth neu rywedd, neu ddadansoddi problemau diogelwch allweddol.
  • Yn ogystal, cewch gyfle i astudio sefydliadau rhyngwladol neu ranbarthau megis y Dwyrain Canol, Affrica neu gyfandiroedd America.    
  • Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu blogiau a briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau.
  • Rydym hyd yn oed yn cynnal modiwlau efelychu chwarae rôl bob blwyddyn sy'n datblygu sgiliau negodi, perswadio, cydweithredu a gweithio mewn tîm.
  • Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, neu weithio i bleidiau gwleidyddol, cyrff anllywodraethol neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, addysg a'r sector cyhoeddus.   
  • Yn ogystal, rydym yn cynnig nifer o fodiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae'r radd hon hefyd ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (642L) neu flwyddyn sylfaen (F42L).

Cyfleoedd – Gall myfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth wneud y canlynol:

  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol: cyfle i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn dreulio interniaeth 3-4 wythnos o hyd yn gweithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Treulio semester dramor yn astudio mewn nifer o leoliadau ar draws Gogledd America, Ewrop, ac Asia a’r Môr Tawel.
  • Cymryd rhan a theimlo'n rhan o gymuned yr Adran drwy weithgareddau fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate, y Grŵp Amrywioldeb, a'n digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Bydd yr elfen blwyddyn dramor hefyd yn dangos i'ch darpar gyflogwyr eich bod yn barod i roi cynnig ar heriau newydd a'ch bod yn gallu addasu i amgylcheddau newydd; bydd hyn yn eich amlygu chi ymhlith ymgeiswyr.

Ar ôl cwblhau'r flwyddyn dramor yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn dychwelyd gyda rhagor o hunan-hyder, a safbwynt mwy aeddfed a gwybodus o'r byd. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl gorffen fy ngradd? 

Mae ein graddedigion wedi cael gwaith yn y meysydd canlynol: 

  • y sector datblygu 
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol 
  • y Gwasanaeth Sifil 
  • ymchwil ar ran y Llywodraeth 
  • ymchwil cymdeithasol 
  • y trydydd sector, e.e. cyrff anllywodraethol 
  • sefydliadau rhyngwladol 
  • newyddiaduriaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn ystod fy astudiaethau yn y Brifysgol? 

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio ym mhob elfen o’n dysgu. Rydym yn dysgu ein myfyrwyr i anelu at yr yrfa y dymunant ei chael, nid y swydd y gallant ei chael. 

  • Gall myfyrwyr wneud cais am ein Cynllun Lleoliadau Seneddol o fri, interniaeth 3-4 wythnos i fyfyrwyr ail flwyddyn gael gweithio ochr yn ochr ag AS yn San Steffan neu AS yng Nghaerdydd.
  • Rydym hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf ym Mhrydain i gael ei redeg gan fyfyrwyr, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi i gyhoeddi'ch gwaith (sydd yn enwedig o fanteisiol os hoffech fynd ymlaen i astudiaethau uwchraddedig) neu i gael profiad gwerthfawr o weithio’n rhan o'r tîm golygyddol.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr yn cynnig ysbrydoliaeth ac yn meithrin ymdeimlad cymunedol cryf yn yr adran, gyda rhaglenni o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â llawer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod pedair blynedd eich cwrs gradd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • datblygiad a hynt syniadau allweddol a chysyniadau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • heriau gwleidyddol allweddol yr unfed ganrif ar hugain
  • gwahanol safbwyntiau ar ryfel, heddwch a chwyldro ers 1789
  • materion allweddol ym meysydd rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cewch gyfle i astudio materion fel:

  • damcaniaethau, ymagweddau a safbwyntiau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • ystod o heriau sy'n wynebu'r system ryngwladol, fel globaleiddio, rhyfel, terfysgaeth ryngwladol, newid hinsawdd, anghydraddoldeb, twf arfogaeth niwclear, epidemigau iechyd byd-eang, argyfyngau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a gwrthgiliad;
  • amrywiaeth o wleidyddiaeth ranbarthol a gwladol, gan gynnwys America Ladin, Rwsia, Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, y BRICS, y Dwyrain Canol, a'r Deyrnas Unedig
  • hanes rhyngwladol yr ugeinfed ganrif
  • hanes a datblygiad ideolegau a syniadau gwleidyddol
  • yr ystod o heriau diogelwch sy'n wynebu gweithredwyr domestig a rhyngwladol
  • traethawd hir gorfodol i ddangos eich dealltwriaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn darparu'r radd hon trwy gyfrwng darlithoedd a seminarau. 

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng. Mae’r gemau argyfwng wedi’u seilio ar argyfyngau dyngarol, y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon, uchelgeisiau niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn eich galluogi i ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig am y cyfyngiadau sydd ar arweinwyr gwleidyddol wrth iddynt ymateb i argyfyngau amrywiol. Heb os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Asesu

Rydym yn asesu ein myfyrwyr trwy draethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, dyddiaduron dysgu a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|