BA

Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)

BA Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) Cod 242L Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn ymwneud â'r modd rydyn ni'n mynd i'r afael â heriau byd-eang. Mae gwleidyddiaeth y byd yn sefyll mewn man hanesyddol diddorol ond anodd, un y mae angen i ni, fel bodau gwleidyddol, ei ddeall, ei egluro, ac yn rhannol, ei siapio. Gyda dirywiad cymharol y 'Gorllewin', ymddangosiad grymoedd a gweithredwyr newydd, a natur gynyddol gymhleth a phlethog problemau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, rhyngwladol a byd-eang, mae 'gwleidyddiaeth ryngwladol' yn cyrraedd oes newydd.

Bydd y radd hon mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) yn rhoi cyfle ichi astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanes a'r rhanbarthau sy'n ffurfio gwleidyddiaeth ryngwladol fel disgyblaeth, gydag opsiwn i astudio yn un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu'r tu hwnt.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu yn adran gwleidyddiaeth ryngwladol gyntaf y byd. Fe'i sefydlwyd ym 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Mawr er mwyn deall achosion rhyfel yn well, ac i hyrwyddo byd mwy heddychlon.
  • Yn ystod y cwrs, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein 'Gêm Argyfwng Rhyngwladol'. Ymarferiad chwarae rôl yw hwn, a gynhelir dros dridiau, ar weithredu gwleidyddol, economaidd a diplomataidd, lle byddwch yn datblygu sgiliau negodi a chyfathrebu, meddwl beirniadol, gwaith tîm a datrys problemau.
  • Bydd yr elfen astudio dramor yn golygu y bydd modd i chi ddewis astudio yn un o'n Prifysgolion partner; mae gennym nifer o'r rhain yn Ewrop, Gogledd America, Asia ac Awstralia. Bydd eich blwyddyn dramor yn digwydd yn ystod eich trydedd flwyddyn, a byddwch yn dychwelyd i gwblhau'r bedwaredd flwyddyn (sef y flwyddyn olaf).
  • Rydyn ni'n gweithredu cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod o Senedd Cymru (Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Rydyn ni hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr ar wleidyddiaeth ryngwladol yng ngwledydd Prydain. Mae'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith neu gael profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a gaiff ei rhedeg gan fyfyrwyr, yn trefnu rhaglen brysur ac amrywiol o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus, fel y ddawns flynyddol.
  • Yn ogystal â hynny, rydym yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a gaiff eu haddysgu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch ar y tab modiwlau i gael rhagor o wybodaeth am y modiwlau ar y cwrs hwn, neu ewch i'r dudalen 'Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg' i wybod mwy yn gyffredinol.


Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline IQ22620 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
China From the Opium War to the Present IP29820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Gender, Conflict and Security IP26720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ27120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Race in Global Politics IQ20020 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian Security in the 21st Century IP21820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ20920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Long Shadow of the Second World War IP22720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline: IQ32620 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
China From the Opium War to the Present IP39820 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ37120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Race in Global Politics IQ30020 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian Security in the 21st Century IP31820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Long Shadow of the Second World War IP32720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Bydd yr elfen blwyddyn dramor hefyd yn dangos i'ch darpar gyflogwyr eich bod yn barod i roi cynnig ar heriau newydd a'ch bod yn gallu addasu i amgylcheddau newydd; bydd hyn yn eich amlygu chi ymhlith ymgeiswyr.

Ar ôl cwblhau'r flwyddyn dramor yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn dychwelyd gyda rhagor o hunan-hyder, a safbwynt mwy aeddfed a gwybodus o'r byd. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl i mi gwblhau fy ngradd?

Dyma enghreifftiau o'r hyn mae rhai o'n graddedigion yn ei wneud: Swyddi'n ymwneud â gwleidyddiaeth fel swyddi yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau rhyngwladol, cyrff yn y sectorau anllywodraethol ac nid-er-elw, a'r lluoedd arfog.

Mae ein graddedigion hefyd wedi cael swyddi ym meysydd newyddiaduraeth, y gyfraith, busnes, addysgu a'r sector ariannol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod pedair blynedd eich cwrs gradd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • datblygiad a hynt syniadau allweddol a chysyniadau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • heriau gwleidyddol allweddol yr unfed ganrif ar hugain
  • gwahanol safbwyntiau ar ryfel, heddwch a chwyldro ers 1789
  • materion allweddol ym meysydd rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cewch gyfle i astudio materion fel:

  • damcaniaethau, ymagweddau a safbwyntiau ym maes cysylltiadau rhyngwladol
  • ystod o heriau sy'n wynebu'r system ryngwladol, fel globaleiddio, rhyfel, terfysgaeth ryngwladol, newid hinsawdd, anghydraddoldeb, twf arfogaeth niwclear, epidemigau iechyd byd-eang, argyfyngau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a gwrthgiliad;
  • amrywiaeth o wleidyddiaeth ranbarthol a gwladol, gan gynnwys America Ladin, Rwsia, Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, y BRICS, y Dwyrain Canol, a'r Deyrnas Unedig
  • hanes rhyngwladol yr ugeinfed ganrif
  • hanes a datblygiad ideolegau a syniadau gwleidyddol
  • yr ystod o heriau diogelwch sy'n wynebu gweithredwyr domestig a rhyngwladol
  • traethawd hir gorfodol i ddangos eich dealltwriaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau, ynghyd â gweithdai, efelychiadau ac ymarferion chwarae rôl. Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau polisi, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau. Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi drwy gydol eich amser fel myfyriwr israddedig. Gall yr unigolyn hwn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau, boed yn faterion academaidd neu bersonol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|