BA

Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi

BA Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi Cod W840 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae ysgrifennu’n greadigol yn sgil allweddol sy’n cyfoethogi ein bywydau ni i gyd. Ar y cwrs gradd BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi ym Mhrifysgol Aberystwyth, cewch gyfle i ddatblygu a mireinio eich sgiliau ysgrifennu creadigol mewn Adran a chanddi draddodiad hir o arwain yn y maes hwn. 

Mae BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi yn gwrs sydd yn gyffrous ac yn hyblyg, ac mae rhoi sylw i'r diwydiant cyhoeddi yn ogystal â chreadigrwydd yn ei wneud yn gwrs deinamig ac unigryw hefyd. Cewch gyfle i ddatblygu eich gallu creadigol ac i ganfod eich llais eich hun fel awdur. Yn ogystal, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich paratoi ar gyfer dyfodol o ysgrifennu’n greadigol neu olygu, a bydd cyfleoedd amrywiol yn agored i chi yn y meysydd hynny. Dewch i Brifysgol Aberystwyth i gychwyn ar eich antur creadigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs gradd BA Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwrs cyffrous sy’n galluogi ichi feithrin eich sgiliau creadigol ac i ddod i adnabod y byd creadigol yng Nghymru a thu hwnt yn ei holl amrywiaeth.

Cewch gyfle i:

  • roi cynnig ar amrywiaeth eang o wahanol ffurfiau creadigol, o farddoniaeth i ryddiaith i ddrama i sgriptio
  • arbenigo ar ffurfiau creadigol o’ch dewis chi
  • derbyn hyfforddiant gan ddarlithwyr sydd hefyd yn feirdd ac awduron byd-enwog
  • deall natur y diwydiant cyhoeddi sy’n cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa, nid yn unig fel awduron cyhoeddedig, ond fel pobl broffesiynol ym maes hybu a meithrin llenyddiaeth.

Mae tri llwybr ar gael: 

  • llwybr iaith gyntaf gyda Safon Uwch
  • llwybr ail iaith
  • llywbr iaith gyntaf heb Safon Uwch.  

Ymunwch â ni ar y cwrs hwn a gadewch i ni eich tywys i fyd creadigol mewn lleoliad heb ei ail, lle cewch fagu dealltwriaeth drylwyr o’r byd ysgrifennu creadigol a’r diwydiant cyhoeddi. Cewch gyfle i droi eich llaw at nifer fawr o wahanol ffurfiau creadigol, o gerddi i straeon byrion, o lên meicro i lenyddiaeth ecffrastig, gan feithrin y gallu i’w defnyddio’n bwrpasol wrth greu. At hynny, cewch eich cyflwyno i faes eang y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a'r tu hwnt, gyda golwg benodol ar weisg ac ar asiantaethau allweddol fel Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. 

Mae ein holl staff academaidd yn ysgolheigion sy’n gwneud ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu meysydd astudio, gan gynnwys cyhoeddi llenyddiaeth, golygu a phrawf-ddarllen, a chyfieithu creadigol. Ar y cwrs hwn, byddwch yn elwa ar gefnogaeth gan ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol sy’n fardd ac yn awdur cyhoeddedig. Yn ogystal, mae gennym gysylltiadau cryf â chyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol lleol ac o'r herwydd rydym yn rhan o gymuned greadigol eang a bywiog. Bydd cyfle ichi elwa ar y cysylltiadau hyn drwy ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol, ee gyda golygydd neu wasanaeth golygyddol, gwasg neu gyhoeddwr annibynnol. 

Bydd profiadau llenyddol cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn y radd hon hefyd ac yn llwyfannau bywiog i weithgareddau’r cwrs, ee Cicio’r Bar, sef digwyddiad llenyddol chwarterol yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Noson Llên a Chân flynyddol, a chylchgrawn llenyddol Y Ddraig.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY11420 20
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg CY10920 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20

Gyrfaoedd

Bydd y cwrs gradd BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi yn sylfaen gadarn i yrfa ym maes ysgrifennu creadigol a chyhoeddi. 

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar sgiliau creadigol, ymchwilio, beirniadol a chyfathrebu o safon uchel. Byddwch yn gallu defnyddio’r sgiliau hynny i gyfoethogi eich bywyd diwylliannol a phroffesiynol mewn cyd-destun Cymraeg a dwyieithog. 

Mae sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu o safon uchel yn rhai sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr, beth bynnag yw’r maes. I lwyddo fel awdur heddiw, fe fydd angen llawer o sgiliau a phrofiadau arnoch chi i'ch galluogi i fod yn hyblyg ac i ennill bywoliaeth ym mha bynnag faes sy’n apelio atoch. 

Dyma rai gyrfaoedd a meysydd posib: 

  • ysgrifennu Creadigol 
  • ysgrifennu copi 
  • golygu 
  • cyhoeddi 
  • cyfathrebu a materion cyhoeddus 
  • blogio ac ysgrifennu cynnwys i wefannau 
  • cyfathrebu corfforaethol 
  • cysylltiadau cyhoeddus. 

Dysgwch am swyddi rhai o’n graddedigion ar y dudalen Ydy fy swydd yn dy siwtio? 

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Ar y cwrs hwn cewch gyfle i: 

  • roi cynnig ar amrywiaeth eang o wahanol ffurfiau creadigol, o farddoniaeth i ryddiaith i ddrama i sgriptio 
  • arbenigo ar ffurf/iau creadigol o’ch dewis chi 
  • derbyn hyfforddiant gan ddarlithwyr sydd hefyd yn feirdd ac awduron byd-enwog 
  • deall natur y diwydiant cyhoeddi sy’n cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa, nid yn unig fel awduron cyhoeddedig, ond fel pobl broffesiynol ym maes hybu a meithrin llenyddiaeth. 

Mae ein modiwlau craidd yn cyflwyno ystod eang o sgiliau hanfodol: dealltwriaeth o wahanol ffurfiau llenyddol sylfaenol a’r gallu i’w harfer, ymateb yn hunan feirniadol, ysgrifennu Cymraeg cywir mewn gwahanol gyweiriau, dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt ac, yn bennaf oll, y gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn fwriadus. Gallwch hefyd astudio amrywiaeth eang o wahanol fodiwlau dewisol sy’n canolbwyntio ar iaith ac ar lenyddiaeth. 

I ganfod mwy am y modiwlau sydd ar gael ar y cwrs hwn, gweler y tab ‘Modiwlau’. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu seiliau cadarn ar gyfer meithrin sgiliau ysgrifennu a byddwch yn adeiladu ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn drwy weithio’n fwy annibynnol dan gyfarwyddyd. 

Erbyn y drydedd flwyddyn, bydd modd ichi arbenigo ar un neu fwy o ffurfiau drwy weithio’n fwy annibynnol yn y modiwl Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol. Cefnogir y llwybr hwnnw drwy gydol y cwrs gradd gan fodiwlau craidd a dewisol sy’n rhoi sail ieithyddol a llenyddol gadarn ichi gyflawni’r gwaith. Cewch eich dysgu sut i ysgrifennu’n gryno, yn fwriadus ac yn ddiwastraff; i hunanfyfyrio’n aeddfed feirniadol; i ddadansoddi’n drylwyr destunau llenyddol a phroffesiynol.  

Byddwch yn cael eich addysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtora, dosbarthiadau iaith, dosbarthiadau darllen testun, gwaith maes, profiad gwaith, gweithdai, traethawd estynedig neu brosiect (dan gyfarwyddyd), dysgu cyfeiriedig, dysgu annibynnol, e-ddysgu.  

Sut bydda i’n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu ar sail arholiadau, profion ac ymarferion iaith, gwaith cwrs (traethodau ac adolygiadau), gwaith prosiect (gall fod ar y cyd), traethawd estynedig, asesu llafar (gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol a chyfraniadau mewn seminar), profiad gwaith (gan gynnwys adroddiadau ffurfiol a chadw dyddiadur adfyfyriol), gweithgareddau sy’n asesu sgiliau arbennig (gan gynnwys defnyddio ffurfiau llenyddol, technoleg gwybodaeth, llunio llyfryddiaeth a chyfeiriadau, llunio holiadur, trefnu gwaith maes), gwaith ffolio, gan gynnwys ysgrifennu creadigol ac ymarferion cyfieithu. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|