Pam astudio’r BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi yn Aberystwyth?
- Bydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn dy dywys i fyd creadigol mewn lleoliad heb ei ail. Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddi’n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion.
- Mae holl staff academaidd yr Adran yn ysgolheigion - yn ymchwilwyr gweithredol ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd, sy’n cynnwys cyhoeddi lleynyddiaeth, golygu a phrawf-ddarllen, a chfieithu creadigol.
- Byddi’n elwa ar gefnogaeth gan ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol sy’n fardd ac yn awdur cyhoeddedig.
- Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r adran hynaf o’i math – adran a chanddi gysylltiadau â gweisg, cyrff a mudiadau creadigol ar hyd a lled y wlad.
- Cei ddewis iaith Geltaidd arall yn ogystal â’r Gymraeg, sef Llydaweg, Gwyddeleg neu Aeleg yr Alban.
- Bydd profiadau llenyddol cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn y radd hon hefyd ac yn llwyfannau bywiog i weithgareddau’r cwrs, ee Cicio’r Bar, sef digwyddiad llenyddol chwarterol yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Noson Llên a Chân flynyddol, a cylchgrawn llenyddol Y Ddraig.
- Mae gan yr Adran gysylltiadau cryf â chyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol lleol ac mae’n rhan o gymuned greadigol eang oherwydd hynny.
- Bydd cyfle iti ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol, ee gyda golygydd neu wasanaeth golygyddol, gwasg neu gyhoeddwr annibynnol, neu gyda Chyngor Llyfrau Cymru neu Lenyddiaeth Cymru.
- Byddi’n gallu manteisio ar agosrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i hadnoddau gwych.
- Bydd y cwrs hwn yn sylfaen gadarn i yrfa ym maes ysgrifennu creadigol a chyhoeddi.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Gyda’r radd BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi o Brifysgol Aberystwyth, byddi’n barod am yrfa yn y diwydiant ysgrifennu/cyhoeddi o dy ddewis.
Erbyn diwedd y cwrs, byddi’n meddu ar sgiliau creadigol, ymchwilio, beirniadol a chyfathrebu o safon uchel. Byddi’n gallu defnyddio’r sgiliau hynny i gyfoethogi dy fywyd diwylliannol a phroffesiynol mewn cyd-destun Cymraeg a dwyieithog.
Mae sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu o safon uchel yn rhai sy’n cael eu gwerthfarogi’n fawr gan gyflogwyr, beth bynnag yw’r maes. I lwyddo fel ysgrifennwr yn yr oes sydd ohoni, fe fyddi angen llawer o sgiliau a phrofiadau i dy alluogi i fod yn hyblyg ac i wneud bywoliaeth fel ysgrifennwr ym mha bynnag faes sy’n apelio iti.
Dyma rai gyrfaoedd a meysydd posib:
- ysgrifennu creadigol
- ysgrifennu copi
- golygu
- cyhoeddi
- cyfathrebu
- ysgrifennu blogiau/cynnwys i wefannau
- cyfathrebu corfforaethol
- cysylltiadau cyhoeddus
- y Gwasanaeth Sifil.
Mae ein modiwlau craidd yn cyflwyno ystod eang o sgiliau hanfodol: dealltwriaeth o wahanol ffurfiau llenyddol sylfaenol a’r gallu i’w harfer, ymateb yn hunan feirniadol, ysgrifennu Cymraeg cywir mewn gwahanol gyweiriau, dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt ac, yn bennaf oll, y gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn fwriadus. Gallwch hefyd astudio amrywiaeth eang o wahanol fodiwlau dewisol sy’n canolbwyntio ar iaith ac ar lenyddiaeth.
Mae tri llwybr ar gael:
· Llwybr iaith gyntaf gyda lefel A
· Llwybr Ail Iaith
· Llywbr iaith gyntaf heb lefel A.
Isod ceir rhai o’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.
Y flwyddyn gyntaf:
Modiwlau craidd:
- Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
- Sgiliau Astudio Iaith a Llên
- Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar.
Modiwlau dewisol:
- Beirdd a Llenorion o 1900 Hyd Heddiw
- Themâu a Ffigyrau Llên c.550–1900
- Cymru a’r Celtiaid
- Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad
- Llydaweg: Cyflwyniad.
Yr ail a’r drydedd flwyddyn:
Modiwlau Craidd
- Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- Gloywi Iaith
- Y Golygydd a’r Diwydiant Cyhoeddi
- Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol.
Modiwlau dewisol:
Y Gymraeg yn y gweithle; Y Gynghanedd: Cwrs Trochi; Astudiaethau Trosi ac Addasu; Y Cyfieithydd a’r Sector Cyfieithu; Testunau bob lliw: darllen testunau Cymraeg LHDT+; Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif 1979–; Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar; Rhyddiaith y Dadeni; Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr; Beirdd a Noddwyr; Pedair Cainc y Mabinogi; Y Chwedl Arthuraidd; Golwg ar Ferched mewn Llenyddiaeth hyd tua 1500; Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth yng Nghymru 1400–1800; Traethawd Estynedig; Cymraeg Ddoe a Heddiw: cyflwyniad i ieithyddiaeth.
Sut bydda i’n cael fy addysgu?
Yn y flwyddyn gyntaf, byddi’n datblygu seiliau cadarn ar gyfer meithrin sgiliau ysgrifennu a byddi’n adeiladu ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn drwy weithio’n fwy annibynnol dan gyfarwyddyd.
Erbyn y drydedd flwyddyn, bydd modd iti arbenigo ar un neu fwy o ffurfiau drwy weithio’n fwy annibynnol yn y modiwl Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol. Cefnogir y llwybr hwnnw drwy gydol y cwrs gradd gan fodiwlau craidd a dewisol sy’n rhoi sail ieithyddol a llenyddol gadarn iti gyflawni’r gwaith. Cei dy ddysgu sut i ysgrifennu’n gryno, yn fwriadus ac yn ddiwastraff; i hunanfyfyrio’n aeddfed feirniadol; i ddadansoddi’n drylwyr destunau llenyddol a phroffesiynol.
Byddi’n cael dy addysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtora, dosbarthiadau iaith, dosbarthiadau darllen testun, gwaith maes, profiad gwaith, gweithdai, traethawd estynedig neu brosiect (dan gyfarwyddyd), dysgu cyfeiriedig, dysgu annibynnol, e-ddysgu.
Sut bydda i’n cael fy asesu?
Byddi’n cael dy asesu ar sail arholiadau, profion ac ymarferion iaith, gwaith cwrs (traethodau ac adolygiadau), gwaith prosiect (gall fod ar y cyd), traethawd estynedig, asesu llafar (gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol a chyfraniadau mewn seminar), profiad gwaith (gan gynnwys adroddiadau ffurfiol a chadw dyddiadur adfyfyriol), gweithgareddau sy’n asesu sgiliau arbennig (gan gynnwys defnyddio ffurfiau llenyddol, technoleg gwybodaeth, llunio llyfryddiaeth a chyfeiriadau, llunio holiadur, trefnu gwaith maes), gwaith ffolio, gan gynnwys ysgrifennu creadigol ac ymarferion cyfieithu.