Addysg
BA Addysg Cod X304 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
X304-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
87%
Ar gael ar gyfer Dechrau medi 2026
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWrth astudio am radd mewn Addysg yn Aberystwyth byddwch yn ymchwilio i ddatblygiad plant a phobl ifanc, ac yn ymdrin â materion sy'n ganolog i gael dealltwriaeth o gyfundrefnau addysg. Nod ein cwrs yw eich cyffroi a'ch ysgogi trwy astudiaeth o gynlluniau cwricwlwm a pholisïau addysg, yn ogystal â rhoi dirnadaeth bellach o gymdeithaseg, seicoleg, ac ieithyddiaeth. Agwedd y canolbwyntir arni’n benodol yw cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg.
Mae astudio addysg yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae'n astudio sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylchedd yn dylanwadu ar eu dysgu, sut y gwneir penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Bydd lleoliadau arsylwi yn ystod y radd yn gymorth i chi weld y damcaniaethau ar waith, ac mae cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg yn agwedd y canolbwyntir arni’n benodol.
Mae gradd Addysg yn sylfaen ddelfrydol i waith mewn diwydiant, gwaith creu polisi neu’r sector elusennol, neu i astudio ar gwrs addysg athrawon TAR Cynradd. Gall gradd Addysg ar y cyd â phwnc arall eich cymhwyso am gyrsiau TAR Uwchradd.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau medi - 2026
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Datblygiad a Dysgu Plant | AD14520 | 20 |
Opsiynau
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Addysg, Cynaliadwyedd a Dinasyddiaeth Foesegol | AD10320 | 20 |
| Datblygiad Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar | AD14320 | 20 |
| Education, Sustainability and Ethical Citizenship | ED10320 | 20 |
| Health and Wellbeing in the Early Years | ED14620 | 20 |
| Language Development in the Early Years | ED14320 | 20 |
| Play Matters: Understanding and Supporting Learning and Play | ED13720 | 20 |
| Professional Practice | ED10020 | 20 |
| Ymarfer Proffesiynol | AD10020 | 20 |
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Research Methods | ED20320 | 20 |
| Safeguarding and Professional Practice | ED24320 | 20 |
Opsiynau
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Discourses Language and Education | ED22420 | 20 |
| Literacy in Young Children | ED20220 | 20 |
| Llythrennedd Mewn Plant Ifanc | AD20220 | 20 |
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Major dissertation | ED33640 | 40 |
Opsiynau
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Children's Rights | ED30620 | 20 |
| Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol | AD34820 | 20 |
| Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar | AD30320 | 20 |
| Emotional and Social Development | ED34820 | 20 |
| Hawliau Plant | AD30620 | 20 |
| Mathematical Development in the Early Years | ED30320 | 20 |
| Special Educational Needs | ED30420 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|