Addysg gyda Sbaeneg
BA Addysg gyda Sbaeneg Cod XR04 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
XR04-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
67%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrAddysg gyda Sbaeneg yw'r cyfuniad perffaith os oes gennych ddiddordeb mewn gradd lle bydd eich cymhwysedd iaith a'ch ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn gwella yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, a lle bydd eich ymwybyddiaeth o'r datblygiadau yn y sector addysg yn gwella. Yn ystod eich gradd, bydd modd i chi gymryd rhan mewn cyfle cyfnewid cyffrous yn Sbaenlle bydd gennych gyfle i un ai addysgu Saesneg drwy raglen y British Council, neu i astudio yn un o'n Prifysgolion partner yn Sbaen. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gwrs hyfforddiant athrawon ôl-raddedig (TAR) mewn addysg Gynradd.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|