BSc

Gwyddoniaeth Fiofeddygol

Mae gwyddor fiofeddygol yn faes astudio hynod ddiddorol a gwerth chweil sy'n ymchwilio i'r corff dynol a'i glefydau. Trwy astudio gwyddor fiofeddygol, gallwch ddysgu gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ym meysydd gofal iechyd, ymchwil, addysg a diwydiant.

Mae'r radd BSc Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i archwilio integreiddiad gwybodaeth ac ymarfer clinigol yng nghyswllt iechyd a chlefydau dynol. Yn ogystal ag ymgymryd â chyfres amrywiol o ymarferion mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, byddwch hefyd yn cynnal prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf ar agwedd o’r gwyddorau biofeddygol o’ch dewis.

Trosolwg o'r Cwrs

  • Byddwch yn dysgu am ddulliau ymchwilio, gwneud diagnosis a monitro iechyd a chlefydau dynol trwy amrywiaeth o bynciau gan gynnwys imiwnoleg, gwyddor gwaed, geneteg, microbioleg a biowybodeg.
  • Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bioleg gellol, foleciwlaidd a chemegol.
  • Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
  • Mae’r staff dysgu Gwyddor Fiofeddygol yn cael eu cydnabod fel addysgwyr ac ymchwilwyr arbenigol ac arloesol.
  • Gall myfyrwyr fanteisio ar y labordai, adnoddau dadansoddi a’r ystafelloedd microsgopeg modern o’r radd flaenaf sydd gennym ar y campws.
  • Cyfle i fyw a dysgu mewn amgylchedd eithriadol o fewn tafliad carreg i’r arfordir.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Human Physiological Systems BR16320 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Immunology BR22220 20
One Health Microbiology BR26520 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Molecular Pharmacology BR36120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Gyrfaoedd

Mae rhai o'n graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa yn y meysydd canlynol: 

  • GIG
  • GSK
  • Astra Zeneca
  • Addysg
  • Ymchwil clinigol
  • Labordai diagnostig.

 Beth fydda i’n ei gael o fy ngradd?

Mae cyflogadwyedd yn elfen a ymgorfforir yn ein dysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth â’r sgiliau canlynol:

  • Sgiliau labordy allweddol
  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiannol
  • Sgiliau effeithiol o ran datrys problemau a meddwl yn greadigol
  • Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun
  • Gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.


Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ymdrin â’r amrywiaeth o ddisgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:

  • Bioleg celloedd a biocemeg
  • Anatomeg a ffisioleg dynol
  • Microbioleg, gan gynnwys cyflwyniad i ddiagnosis clefydau ac imiwnoleg
  • Geneteg ac esblygiad.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Gwyddor gwaed
  • Imiwnoleg
  • Cyflwyniad i ymchwil glinigol
  • Bioleg canser
  • Gweithdrefnau ansoddol a meintiol ar gyfer dadansoddi data.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Biowybodeg
  • Genomeg
  • Ffarmacoleg
  • Microbau
  • Prosiect ymchwil.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng darlithoedd, sesiynau ymarferol, gweithdai a sesiynau tiwtora. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ymarferion
  • Portffolios
  • Adroddiadau
  • Traethodau
  • Posteri
  • Adolygiadau o destunau academaidd
  • Cyflwyniadau llafar
  • Arholiadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC with B in Biology or Chemistry

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Minimum grade C/4 in English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|