BSc

Seicoleg gyda Chwnsela (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Seicoleg gyda Chwnsela (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C844 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd BSc Seicoleg gyda Chwnsela (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfuno astudiaeth o wybodaeth seicolegol graidd â sylfeini academaidd cwnsela. Ar y cwrs, cewch eich cyflwyno i ystod o ddulliau a thechnegau therapiwtig, gan gynnwys dulliau cwnsela person-ganolog, ymddygiad gwybyddol a seico-deinamig. Fel myfyriwr ar y cwrs, byddwch yn mabwysiadu ymagwedd ymarferol, fyfyriol at eich dysgu a’ch datblygiad. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio ymarferol gan gynnwys casglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol, a sgiliau arbenigol yn gysylltiedig â chwnsela, y byddwch yn eu datblygu drwy sesiynau ymarferol, chwarae rôl a goruchwylio un i un ar draws y cynllun. Bydd eich blwyddyn ddiwydiannol yn eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle, gan roi eich dysgu damcaniaethol ar waith. 

Trosolwg o'r Cwrs

Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy’n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd posibl yn y byd real. Yn ystod y cwrs tair blynedd, byddwch yn archwilio ac yn dysgu am ddatblygiad dynol a chymhlethdod yr hyn sy’n gwneud i ni fodau dynol weithio a sut rydym ni’n llywio drwy’r amgylchedd mewnol ac allanol cymhleth yn ogystal â sylfeini a hanfodion cwnsela. 

Yn Aberystwyth, rydym ni’n cynnig ystod eang o fodiwlau sy’n gadael i chi fynd ar drywydd amrywiol agweddau ar Seicoleg a chwnsela. Gall myfyrwyr ar ein gradd Seicoleg a Chwnsela fanteisio ar offer ymchwil cyffrous i ddeall gweithgaredd yr ymennydd a gwybyddol yn ogystal ag offer mesuriadau ymddygiadol. 

Bydd myfyrwyr ar y cwrs Seicoleg a Chwnsela yn ymuno ag un o’r adrannau mwyaf yn y brifysgol. Mae’r Adran Seicoleg yn rheolaidd yn cael ei gosod ymhlith y 10 gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr ac ansawdd yr addysgu. Mae’r Adran yn ymfalchïo yn lefel uchel y cymorth academaidd a bugeiliol a arweinir gan y tîm academaidd sy’n sicrhau eich bod yn llwyddo yn eich astudiaethau ac yn cael y profiad prifysgol gorau. 

Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Foundations of Counselling II: Further Skills and Theory PS22120 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Forensic Psychology PS21220 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Psychology in Practice PS20620 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20
Seicoleg mewn gweithred SC20620 20
The Psychology of Language PS20420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement PSS0260 60

Gyrfaoedd

Mae’r BSc Seicoleg gyda Chwnsela (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn sylfaen ragorol os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y proffesiynau gofal cymdeithasol neu gymorth. Bydd achrediad BPS yn galluogi mynediad at hyfforddiant uwchraddedig a phroffesiynol mewn seicoleg glinigol a chwnsela. 

Rydym ni wedi gwreiddio cyflogadwyedd drwy’r cwrs cyfan, ac mae gennym nifer fawr o gyfleoedd sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lunio CV ar gyfer gyrfa mewn lleoliad seicoleg neu’r tu allan i seicoleg. 

Mae graddedigion ar ein gradd BSc Seicoleg a Chwnsela wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd seicoleg glinigol a seicoleg addysg, gofal iechyd, adnoddau dynol a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Bydd eich gradd Seicoleg yn rhoi i chi'r sgiliau mwyaf trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys: ymchwil effeithiol a dadansoddi data; datrys problemau’n effeithiol; y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm; y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn gryno a sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth amlochrog ac mae strwythur ein cwrs gradd a sut y cewch eich addysgu yn adlewyrchu hyn. Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol y gallwch ei chymhwyso i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. I'ch cefnogi yn hyn o beth, mae eich gradd, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, wedi'i seilio ar bynciau craidd hanfodol ym maes seicoleg, sy'n sylfaen ar gyfer y modiwlau dewisol amrywiol ac arbenigol a gynigiwn yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch: 

  • Yn dechrau troi’n Seicolegydd drwy ddatblygu gwybodaeth graidd mewn meysydd fel ymddygiad cymdeithasol ac unigol, yr Ymennydd a gwybyddiaeth a materion hanesyddol ym maes seicoleg. 
  • Yn dechrau datblygu ystod eang o sgiliau drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i ffenomenau seicolegol. 

Yn eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, byddwch: 

  • Yn siapio eich cwrs gradd drwy ddewis o blith ein hystod unigryw o fodiwlau dewisol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi greu'ch llwybr personol eich hun drwy eich cwrs gradd. 
  • Yn cymhwyso sgiliau a ddysgir drwy gydol eich gradd drwy lunio eich traethawd ymchwil eich hun, yn seiliedig ar eich syniadau a’ch diddordebau personol mewn cyd-destun seicolegol. 

Bydd eich trydedd flwyddyn yn cael ei threulio mewn sefydliad priodol, yn cymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u datblygu yn y gweithle. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad o’r cwrs Seicoleg yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu. Pan ymunwch â ni, byddwch yn cael eich neilltuo â thiwtor personol a fydd yn eich cefnogi trwy gydol eich gradd a rhoi cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion academaidd a phersonol.  

Rydym yn darparu addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn gallu manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. Bydd eich datblygiad yn cael ei asesu mewn sawl gwahanol ffordd gan gynnwys; arholiadau traddodiadol, traethodau, wikis, blogiau, arsylwadau, a chyflwyniadau. 

Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau mewn adran sydd ar flaen y gad yn y maes.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
30-26

Bagloriaeth Ryngwladol:
75%-65% overall

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|