BA

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol

BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol Cod F2VL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Cyhyd ag y bu rhyfeloedd, mae pobl wedi ymddiddori yn eu hanes - sut y brwydrwyd y rhyfeloedd hynny, gan bwy a pham. A ninnau’n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, rydym wedi arloesi ym maes astudio rhyfela ers dros gan mlynedd. Rydym yn adeiladu ar y gwaddol hwn trwy archwilio deinameg allweddol brwydrau yn y gorffennol ac olrhain eu heffaith ar fyddinoedd a chymdeithasau heddiw.

Cynlluniwyd y flwyddyn sylfaen integredig ar gyfer darpar fyfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gefndir digonol neu berthnasol, ac mae'n ddewis perffaith i gael mynediad i'r cynllun hynod boblogaidd hwn. Yn ystod y flwyddyn sylfaen, cewch ddatblygu'r sgiliau academaidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cynllun llawn o'r ail flwyddyn ymlaen.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae’r cynllun gradd anrhydedd sengl hwn yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar draws ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned.
  • Byddwch yn cael eich tywys a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig, sy'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol a dynamig i chi.
  • Byddwch yn astudio sut mae rhyfela wedi datblygu ers cyfnod Napoleon, gan ystyried sut a phaham y mae natur rhyfel wedi newid. Gallwch ystyried sut mae technoleg wedi siapio ymladd, o oes stêm i arfau niwclear, dronau a seiber-ryfela.
  • Byddwch hefyd yn dysgu am y syniadau allweddol sy'n siapio ein dealltwriaeth o natur rhyfel a sut y caiff rhyfeloedd eu cynnal: egwyddorion gweithrediadau milwrol, rôl brwydro, pwysigrwydd arweinyddiaeth a chudd-wybodaeth, a grym diwydiant.
  • Yn Aberystwyth, rydym yn defnyddio dull rhyngwladol sy’n gwreiddio eich gwybodaeth am faterion milwrol o fewn cyd-destun ehangach gwleidyddiaeth y byd, a gallwch astudio rhanbarthau megis y Dwyrain Canol, Rwsia a chyfandiroedd America, yn ogystal ag Ewrop. 
  • Mae myfyrwyr Hanes Milwrol a Chysylltiadau Rhyngwladol yn aml wrth wraidd bywyd myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber, ac mae rhai yn ymuno â'n Corfflu Hyfforddi Swyddogion lleol.
  • Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau.
  • Yn ogystal, rydym yn cynnig nifer o fodiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis diplomyddiaeth, newyddiaduraeth, dysgu, a gweithio i sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, a'r sector cyhoeddus.

Cyfleoedd - Gall myfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol yn Aberystwyth wneud y canlynol:

  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol: cyfle i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn dreulio interniaeth 3-4 wythnos o hyd yn gweithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Treulio semester dramor yn astudio mewn nifer o leoliadau ar draws Gogledd America, Ewrop, ac Asia a’r Môr Tawel.
  • Cymryd rhan a theimlo'n rhan o gymuned yr Adran drwy weithgareddau fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate, y Grŵp Amrywioldeb, a'n digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
EU Simulation IP24020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ20520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl i mi gwblhau fy ngradd?

Mae ein graddedigion yn gweithio yn y meysydd canlynol:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • ymchwil y Llywodraeth
  • ymchwil cymdeithasol
  • y trydydd sector er enghraifft gyda chyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Gall myfyrwyr wneud cais am ein Cynllun Lleoliadau Seneddol o fri, interniaeth 3-4 wythnos i fyfyrwyr ail flwyddyn gael gweithio ochr yn ochr ag AS yn San Steffan neu AS yng Nghaerdydd.
  • Rydyn ni hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn y flwyddyn gyntaf - y flwyddyn sylfaen - byddwch yn datblygu sylfaen academaidd gadarn a fydd yn eich paratoi ar gyfer y radd lawn o'r ail flwyddyn ymlaen.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • materion allweddol ym meysydd Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth
  • hanes Rhyngwladol a Gwneuthuriad y Byd Modern
  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut y cânt eu portreadu
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig.

Yn ystod y trydedd a'r flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i astudio materion fel:

  • esblygiad rhyfela ers adeg Napoleon
  • rôl rhyfel a rhyfela yn hanes gwladwriaethau a rhanbarthau allweddol (megis Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Rwsia, a'r Dwyrain Canol)
  • agweddau allweddol ar y Rhyfel Oer, yr Ail Ryfel Byd, y berthynas rhwng y wladwriaeth, cymdeithasau a'r fyddin, rhyfel diymatal, cudd-wybodaeth a rhyfela.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir gorfodol yn y flwyddyn olaf i ddangos eich gwybodaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng. Mae’r gemau argyfwng wedi’u seilio ar argyfyngau dyngarol, y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon, uchelgeisiau niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn eich galluogi i ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig am y cyfyngiadau sydd ar arweinwyr gwleidyddol wrth iddynt ymateb i argyfyngau amrywiol. Heb os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Asesu

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 48

Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|