BA

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol

BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol Cod F2VL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen integredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfle ichi gynnal astudiaeth fanwl o ryfela, a sut y mae wedi datblygu ers cyfnod Napoleon i adlewyrchu newidiadau cymdeithasol a thechnolegol. Byddwch yn ystyried sut a phaham y mae natur rhyfel wedi newid, o genhedloedd yn ymarfogi yn oes rhyfel diymatal i ryfeloedd o ddewis, a sut mae technoleg wedi newid rhyfel, o stêm i bŵer niwclear i gyfrifiaduron a thechnoleg nano.

Byddwch yn cael y cyfle i gyfrannu at drafodaethau allweddol ynglŷn â natur newidiol rhyfel a'i effaith ar bobl gyffredin, yn ogystal ag ar yr amrywiaeth o ffyrdd mae ysgolheigion yn dehongli hanes milwrol. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi byddinoedd a gwethrediadau milwrol o safbwyntiau amrywiol, megis arweiniad, arwyddocâd meddylfryd strategol a'r gwersi y gellir eu dysgu yn sgil brwydrau a rhyfeloedd. Byddwch hefyd yn adfyfyrio ar berthynas rhyfeloedd a byddinoedd â sefydliadau gwleidyddol, materion economaidd ac ideolegau fel cenedlaetholdeb.

Cynlluniwyd y flwyddyn sylfaen integredig ar gyfer darpar fyfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gefndir digonol neu berthnasol, ac mae'n ddewis perffaith i gael mynediad i'r cynllun hynod boblogaidd hwn. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, cewch ddatblygu'r sgiliau academaidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cynllun llawn o'r ail flwyddyn ymlaen.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn dod yn fyfyriwr yn yr adran gwleidyddiaeth ryngwladol gyntaf yn y byd, a sefydlwyd yn 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Mawr i helpu'r byd i ddeall y byd.
  • Byddwch yn cael eich tywys a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig, sy'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol a dynamig i chi.
  • Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein 'Gemau Argyfwng' enwog; tridiau o ymarferiad chwarae rôl lle mae gofyn cynnal trafodaethau gwleidyddol, economaidd a diplomyddol sy'n datblygu sgiliau trafod a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio mewn tîm, a datrys problemau.
  • Rydym yn gweithredu Cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Rydyn ni hefyd yn rhedeg Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Fyfyrwyr, sydd wedi'i seilio ar gysylltiadau agos gyda phrifysgolion dethol yn Ewrop, Asia, Gogledd America ac Awstralia, a fydd yn cynnig cyfle ardderchog i ehangu eich gorwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o'ch cyfnod prifysgol dramor.
  • Rydyn ni'n gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o drafodaethau, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai gwleidyddol, ynghyd â nifer o weithgareddau cymdeithasol fel y ddawns flynyddol.
  • Yn olaf, rydym hefyd yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a gaiff eu haddysgu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i'r dudalen 'Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg' i gael rhagor o wybodaeth.


Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 CY01020 20
Sylfaen Sgiliau Academaidd 2 CY01120 20
Foundation - Dialogue GS00120 20
Foundation in Liberal Arts GS00220 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Learning Experience GS00320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A Century of Conflict: Global warfare 1918-2018 IQ25920 20
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
America at War: A Military History of the United States IP26920 20
Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer GQ23720 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Global Inequality and World Politics IQ24120 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Multiculturalism in Policy and Practice IQ23720 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Century of the Superpowers and the Global Cold War IQ25220 20
The EU: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Making of National Security Policy IP23720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
Women and Military Service IP21620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A Century of Conflict: Global warfare 1918-2018 IQ35920 20
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
America At War: a Military History of the United States IP36920 20
Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer GQ33720 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Climate Change Politics IP31420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Global Inequality and World Politics IQ34120 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Justice, Order, Human Rights IQ31720 20
Multiculturalism in Policy and Practice IQ33720 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Century of the Superpowers and the Global Cold War IQ35220 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Making of National Security Policy IP33720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
Women and Military Service IP31620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl i mi gwblhau fy ngradd?

Mae ein graddedigion yn gweithio yn y meysydd canlynol:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • ymchwil y Llywodraeth
  • ymchwil cymdeithasol
  • y trydydd sector er enghraifft gyda chyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Rydyn ni'n gweithredu cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Rydyn ni hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yn y DU, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn y flwyddyn gyntaf - y flwyddyn sylfaen - byddwch yn datblygu sylfaen academaidd gadarn a fydd yn eich paratoi ar gyfer y radd lawn o'r ail flwyddyn ymlaen.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • materion allweddol ym meysydd Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth
  • hanes Rhyngwladol a Gwneuthuriad y Byd Modern
  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut y cânt eu portreadu
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig.

Yn ystod y trydedd a'r flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i astudio materion fel:

  • esblygiad rhyfela ers adeg Napoleon
  • rôl rhyfel a rhyfela yn hanes gwladwriaethau a rhanbarthau allweddol (megis Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Rwsia, a'r Dwyrain Canol)
  • agweddau allweddol ar y Rhyfel Oer, yr Ail Ryfel Byd, y berthynas rhwng y wladwriaeth, cymdeithasau a'r fyddin, rhyfel diymatal, cudd-wybodaeth a rhyfela.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir gorfodol yn y flwyddyn olaf i ddangos eich gwybodaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sy'n gwrs preswyl ddwywaith y flwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgeisiau niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|