BA

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol

BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol Cod H2VL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Cyhyd ag y bu rhyfeloedd, mae pobl wedi ymddiddori yn eu hanes - sut y brwydrwyd y rhyfeloedd hynny, gan bwy a pham. A ninnau’n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, rydym wedi arloesi ym maes astudio rhyfela ers dros gan mlynedd. Rydym yn adeiladu ar y gwaddol hwn trwy archwilio deinameg allweddol brwydrau yn y gorffennol ac olrhain eu heffaith ar fyddinoedd a chymdeithasau heddiw. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cynllun gradd anrhydedd sengl hwn yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar draws ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. Byddwch yn astudio sut mae rhyfela wedi datblygu ers cyfnod Napoleon, gan ystyried sut a phaham y mae natur rhyfel wedi newid. Gallwch ystyried sut mae technoleg wedi siapio ymladd, o oes stêm i arfau niwclear, dronau a seiber-ryfela. Byddwch hefyd yn dysgu am y syniadau allweddol sy'n siapio ein dealltwriaeth o natur rhyfel a sut y caiff rhyfeloedd eu cynnal: egwyddorion gweithrediadau milwrol, rôl brwydro, pwysigrwydd arweinyddiaeth a chudd-wybodaeth, a grym diwydiant. Yn Aberystwyth, rydym yn defnyddio dull rhyngwladol sy’n gwreiddio eich gwybodaeth am faterion milwrol o fewn cyd-destun ehangach gwleidyddiaeth y byd, a gallwch astudio rhanbarthau megis y Dwyrain Canol, Rwsia a chyfandiroedd America, yn ogystal ag Ewrop. 

Mae myfyrwyr Hanes Milwrol a Chysylltiadau Rhyngwladol yn aml wrth wraidd bywyd myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber, ac mae rhai yn ymuno â'n Corfflu Hyfforddi Swyddogion lleol. Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau. Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis diplomyddiaeth, newyddiaduraeth, dysgu, a gweithio i sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, a'r sector cyhoeddus.

Cyfleoedd - Gall myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth wneud y canlynol:

  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir dros 3 diwrnod, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol: cyfle i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn dreulio interniaeth chwe wythnos o hyd yn gweithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Adran, fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau y Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate a'n nosweithiau cwis a phitsa poblogaidd.    
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
War Crimes IQ25720 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl i mi gwblhau fy ngradd?

Mae ein graddedigion yn gweithio yn y meysydd canlynol:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • ymchwil y Llywodraeth
  • ymchwil cymdeithasol
  • y trydydd sector er enghraifft gyda chyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Rydyn ni'n gweithredu cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod o Senedd Cymru (Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Rydyn ni hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfle i archwilio:

  • materion allweddol ym meysydd Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth
  • hanes Rhyngwladol a Gwneuthuriad y Byd Modern
  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut y cânt eu portreadu
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig.

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd gennych gyfle i astudio materion fel:

  • esblygiad rhyfela ers adeg Napoleon
  • rôl rhyfel a rhyfela yn hanes gwladwriaethau a rhanbarthau allweddol (megis Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Rwsia, a'r Dwyrain Canol)
  • agweddau allweddol ar y Rhyfel Oer, yr Ail Ryfel Byd, y berthynas rhwng y wladwriaeth, cymdeithasau a'r fyddin, Rhyfel diymatal, Cudd-wybodaeth a rhyfela.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir gorfodol yn y flwyddyn olaf i ddangos eich gwybodaeth sylweddol yn eich dewis faes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sy'n gwrs preswyl ddwywaith y flwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgeisiau niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd fy mod i'n cael archwilio pynciau sydd o ddiddordeb personol i fi. Gall y gwaith darllen fod yn helaeth ar brydiau, ond mae bob amser yn ddiddorol cael safbwyntiau newydd ar bethau ro'n i'n meddwl fy mod eisoes yn gwybod amdanyn nhw. Mae'r seminarau yn dda hefyd - mae trafod y pynciau a chael gwybod beth mae fy nghyd-fyfyrwyr wedi'i ddehongli am y pwnc yn fy helpu i ddatblygu fy atebion a fy nealltwriaeth fy hun, sydd wedyn yn fy ngalluogi i gael gwell sgoriau pan ddaw hi at ysgrifennu traethodau a'r arholiadau!

Adam Curtis

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|