BA

Eidaleg a Sbaeneg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wyt ti’n ysytried dy hun yn ddinesydd Ewropeaidd a byd-eang? Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, ein Gradd Gyfun mewn Eidaleg a Sbaeneg yw’r cwrs i ti. Bacha ar y cyfle hwn i feithrin gwybodaeth helaeth am iaith a diwylliant dau wareiddiad sydd ymysg yr hynaf yn ardal Môr y Canoldir o Ewrop. Wrth astudio am y radd hon, byddi’n datblygu cymhwysedd ar draws yr holl sgiliau iaith yn Eidaleg a Sbaeneg. Byddi hefyd yn ymchwilio i gymdeithas a diwylliant yr Eidal a Sbaen trwy ein amrywiaeth eang o opsiynau.

Yn ystod dy drydedd flwyddyn, cei gychwyn ar antur fwyaf dy fywyd hyd yma. Byddi’n byw dramor ac yn gallu manteisio ar lond gwlad o gyfleoedd i hogi dy sgiliau iaith wrth i ti ymgolli yn niwylliant cyfoethog cymunedau Eidalaidd a Sbaenaidd dy ddewis leoliadau. Ac fe wnei di ffrindiau newydd ar yr un pryd.

Erbyn diwedd y cwrs, a chyda llond llaw o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig yng ngolwg cyflogwyr, bydd amrwyiaeth eang o yrfaoedd ar gael i ti gartref a thramor.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Eidaleg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Aberystwyth yn dref fach a chanddi galon fawr ac ymagwedd gosmopolitaidd. Fel prifysgol fywiog a chyfeillgar, rydym yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac mae’r awyrgylch agos atoch yn ei wneud yn lle gwych i ddod i nabod pobl.
  • Bydd dod o hyd i bobl i ymarfer dy Eidaleg a Sbaeneg gyda nhw’n hawdd, ac mae’n bosib y byddi di eisiau cymryd mantais o Gyfnewidfa Iaith Prifysgol Aberystwyth ar gyfer dysgu tandem. Mae dysgwyr yn gweithio gyda phartner o wlad arall neu rywun sy’n siarad yr iaith maen nhw’n dymuno ei dysgu, mewn sefyllfa anffurfiol.
  • Rydym yn adran fach, gyfeillgar ac rydym yn dod i nabod ein myfyrwyr yn dda. Bydd ein darlithwyr wrth law bob amser os oes angen iti drafod unrhyw beth.
  • Mae pob myfyriwr yn ein hadran yn ffynnu yn ein hawyrgylch amlieithog. Rydym yn dysgu’r rhan helaeth o’n modiwlau a’n dosbarthiadau trwy’r iaith darged, mae llawer o’n staff addysgu yn siaradwyr brodorol ac mae pob un yn arbenigwr yn eu priod ieithoedd.
  • O’r cychwyn cyntaf, byddi’n cael isafswm o 4 awr yr wythnos o hyfforddiant iaith yn y ddwy iaith darged, ac yn dilyn modiwlau ar ddiwylliant Eidalaidd a Sbaenaidd a ddysgir yn yr iaith darged. Mae ein holl ddosbarthiadau wedi eu cynllunio i roi sylfaen gref fydd yn dy alluogi i ddod yn rhugl yn Eidaleg a Sbaeneg ac i feithrin gwybodaeth fanwl am ddiwylliant Sbaenaidd ac Eidalaidd.
  • Mae’r radd hon ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio Eidaleg o lefel Dechreuwr ochr yn ochr â Sbaeneg ôl-Safon Uwch. Byddi’n cael dosbarthiadau iaith dwys yn hanner Eidaleg y cwrs er mwyn cyrraedd safon ôl-Safon Uwch yn dy ail flwyddyn.
  • Yn ogystal â gwersi penodol ar siarad, gwrando, cyfieithu a gramadeg, mae pob myfyriwr yn cael cynnig modiwlau craidd ac opsiynol sy’n mynd i’r afael â llenyddiaeth, diwylliant, iaith, gwleidyddiaeth a busnes.
  • Uchafbwynt y radd hon i’n holl fyfyrwyr yw’r flwyddyn dramor. Gan y byddi’n astudio dwy iaith, bydd gofyn i ti rannu dy flwyddyn dramor (dy drydedd flwyddyn) yn gyfartal rhwng yr Eidal (neu wlad Eidaleg ei hiaith) a Sbaen (neu wlad Sbaeneg ei hiaith). Mae sawl opsiwn ar gyfer dy flwyddyn dramor, yn cynnwys astudio fel rhan o’r rhaglen Erasmus ac ymgymryd â lleoliad gwaith. Cei ragor o wybodaeth am yr opsiynau trwy ymweld â’n tudalen Astudio Dramor.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginners Italian 1 IT10820 20
Beginners Italian 2 IT11020 20
Spanish Language Advanced SP19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Hispanic Civilization SP10610 10
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Italian Language IT20130 30
Spanish Language SP20130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian / Portuguese Language II EL20720 20
Cuba in Revolution SP26020 20
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP27020 20
Extended Essay Module EL20510 10
Italian Cities IT21120 20
Language of Business and Current Affairs 1 SP20310 10
Modern Italy IT21210 10
Seeing Spain Through Cinema SP25020 20
Spanish American Cinema SP26120 20
The Spanish Avant-Garde SP20010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Italian Language IT30130 30
Spanish Language SP30130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian / Portuguese Language III EL30720 20
Cuba in Revolution SP36020 20
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP37020 20
Dissertation EL30120 20
Extended Essay Module EL30510 10
Italian Cities IT31120 20
Reading Late 19th Century Literature SP35120 20
Seeing Spain Through Cinema SP35020 20
The Language of Current Affairs IT30310 10
Traducción al español SP39910 10

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein dysgu ar draws yr Adran Ieithoedd Modern. Yr hyn sy’n tynnu sylw at eingraddedigion ymhlith y dorf yw’r flwyddyn dramor. Mae myfyrwyr yn dychwelyd o’u blwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, hyfedredd cryf yn yr ieithoedd targed a’r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae galw mawr am sgiliau iaith ac maen nhw’n creu agoriadau mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Yn y Complete University Guide 2021 (cyhoeddwyd 9 Mehefin 2020) roedd Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y safle 1af allan o 48 adran o ran rhagolygon gyrfa.

Dyma rai o’r meysydd lle cafodd ein graddedigion lwyddiant yn dod o hyd i waith:

  • Cyfieithu a Dehongli
  • Darlledu
  • Addysg
  • Marchnata
  • Adnoddau Dynol
  • Datblygu gwefannau
  • Bancio Rhyngwladol
  • Y Gwasanaeth Sifil

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i ti o'r hyn y gallet ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd hon.

Byddi’n astudio modiwl iaith craidd lle byddi’n datblygu dy sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfieithu, a nifer o fodiwlau opsiynol.

Yn y flwyddyn gyntaf, gall y modiwlau opsiynol gynnwys:

  • Cyflwyniad i Ffilm Ewropeaidd
  • Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn Ewrop
  • Sgiliau Astudio ac Ymchwil yn Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin
  • Gwareiddiad Hispanaidd

Yn dy ail flwyddyn cei ddewis o blith:

  • Modiwl Traethawd Estynedig
  • Ailystyried Eidal diwedd yr ugeinfed ganrif
  • Dinasoedd yr Eidal
  • Iaith Busnes a Materion Cyfoes
  • Ffilmiau America Ladin
  • Avant-Garde Sbaen
  • Yr Eidal Fodern
  • Gweld Sbaen drwy ffilmiau
  • Sinema Chwyldro Ciwba

Yn dy drydedd flwyddyn, byddi’n astudio neu’n gweithio dramor, yn rhannu’r amser yn gyfartal rhwng gwlad Eidaleg ei hiaith a Ffrangeg ei hiaith.

Yn dy flwyddyn olaf, cei ddewis o blith modiwlau sy’n cynnwys:

  • Modiwl Traethawd Hir
  • Modiwl Traethawd Estynedig
  • Dinasoedd yr Eidal
  • Ailystyried Eidal diwedd yr ugeinfed ganrif
  • Darllen Llenyddiaeth diwedd y ddeunawfed ganrif
  • Iaith Materion Cyfoes
  • Sinema Chwyldro Ciwba
  • Actualidades
  • Gweld Sbaen drwy ffilmiau

Sut bydda i’n cael fy addysgu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn dy gyflwyno i bynciau, ac mewn seminarau bydd disgwyl i ti gymryd rhan mewn trafodaethau.

Byddi’n dysgu trwy gyfuniad o wersi mewn grwpiau bach, darlithoedd, a nifer fach o seminarau yn y flwyddyn gyntaf, ac yn gynyddol mewn seminarau yn y blynyddoedd wedi hynny. Byddi’n cael dy annog i ddarllen yn annibynnol er mwyn ategu a chyfnerthu’r hyn a ddysgir ac i ehangu dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth dy hun o’r pwnc.

Byddi’n cael cefnogaeth ychwanegol i ddysgu iaith yn y Ganolfan Adnoddau Iaith, a hynny ar sail cyfleusterau a gynorthwyir a rhai y gellir eu cyrchu’n annibynnol.

Sut bydda i’n cael fy asesu?

Byddi’n cael dy asesu ar sail cyflwyniadau llafar, profion gwrando, adroddiadau ysgrifenedig a chyfieithiadau sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth yn y gwersi iaith, a hefyd ar sail arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Yn y modiwlau cynnwys, mae’n bosib y bydd gofyn i ti ysgrifennu traethawd, ymgymryd â phrosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Sbaeneg (onibai yr astudir y pwnc fel dechreuwr)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM to include B in A level Spanish (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Spanish at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Spanish

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|