BA

Gwleidyddiaeth

Yn y cyfnod ansicr hwn, mae'n bwysicach nag erioed deall sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio fel y gallwn chwilio am ffyrdd gwell o drefnu ein cymdeithasau. A ninnau’n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, Prifysgol Aberystwyth wedi arloesi ym maes astudio grym gwleidyddol ers dros gan mlynedd. Ar radd Gwleidyddiaeth, rydym yn adeiladu ar y gwaddol hwn heddiw drwy archwilio’r ddeinameg allweddol sy’n llunio ein byd, megis ideolegau, yr economi wleidyddol, hierarchaethau cymdeithasol a sefydliadau rhyddfrydol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned.
  • Yma byddwch yn astudio sefydliadau ac arferion o fewn systemau gwahanol o lywodraeth a hefyd rôl actorion eraill yn yr arena wleidyddol, megis cyrff anllywodraethol, sefydliadau rhyngwladol, y fyddin, a chymdeithas sifil.
  • Byddwch yn dysgu am gysyniadau megis rhyddid, pŵer, anghyfiawnder a democratiaeth, yn ogystal ag effaith llygredd, a sut mae mudiadau cymdeithasol yn llunio agendâu cenedlaethol.
  • Rydym yn cymryd persbectif rhyngwladol yma yn Aberystwyth, felly gallwch gymharu deinameg wleidyddol mewn lleoliadau megis y Dwyrain Canol, Rwsia neu gyfandiroedd America, yn ogystal ag astudio sut mae pŵer yn gweithredu yn yr UE, y DU ac ar lefel llywodraethau datganoledig.
  • Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu blogiau a briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau.
  • Rydyn ni hyd yn oed yn cynnal modiwlau efelychu chwarae rôl bob blwyddyn sy'n datblygu sgiliau negodi, perswadio, cydweithio a gweithio mewn tîm – ac mae’r rhain i gyd yn hanfodol ym myd gwleidyddiaeth.
  • Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, neu weithio i bleidiau gwleidyddol, cyrff anllywodraethol neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, addysg a'r sector cyhoeddus.   
  • Yn ogystal, rydym yn cynnig nifer o fodiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfleoedd – Gall myfyrwyr Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth wneud y canlynol:

  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol: cyfle i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn dreulio interniaeth 3-4 wythnos o hyd yn gweithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Treulio semester dramor yn astudio mewn nifer o leoliadau ar draws Gogledd America, Ewrop, ac Asia a’r Môr Tawel.
  • Cymryd rhan a theimlo'n rhan o gymuned yr Adran drwy weithgareddau fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate, y Grŵp Amrywioldeb, a'n digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd.  
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
EU Simulation IP24020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ20520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20

Gyrfaoedd

Mae Cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein graddau’n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, sy’n sicrhau bod galw mawr amdanynt. 

Mae'r setiau o sgiliau yn cynnwys: 

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth 
  • gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi ar ôl gorffen fy ngradd? 

Mae ein graddedigion wedi cael gwaith yn y meysydd canlynol: 

  • y sector datblygu 
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol 
  • y Gwasanaeth Sifil 
  • ymchwil ar ran y Llywodraeth 
  • ymchwil cymdeithasol 
  • y trydydd sector, e.e. cyrff anllywodraethol 
  • sefydliadau rhyngwladol 
  • newyddiaduraeth. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn ystod fy astudiaethau yn y Brifysgol? 

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio ym mhob elfen o’n dysgu. Rydym yn dysgu ein myfyrwyr i anelu at yr yrfa y dymunant ei chael, nid y swydd y gallant ei chael. 

  • Gall myfyrwyr wneud cais am ein Cynllun Lleoliadau Seneddol o fri, interniaeth 3-4 wythnos i fyfyrwyr ail flwyddyn gael gweithio ochr yn ochr ag AS yn San Steffan neu AS yng Nghaerdydd.
  • Rydym hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf ym Mhrydain i gael ei redeg gan fyfyrwyr, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi i gyhoeddi'ch gwaith (sydd yn enwedig o fanteisiol os hoffech fynd ymlaen i astudiaethau uwchraddedig) neu i gael profiad gwerthfawr o weithio’n rhan o'r tîm golygyddol.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr yn cynnig ysbrydoliaeth ac yn meithrin ymdeimlad cymunedol cryf yn yr adran, gyda rhaglenni o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â llawer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe gewch y cyfle i ddarganfod: 

  • damcaniaeth wleidyddol a syniadau gwleidyddol allweddol 
  • y gwahanol fethodolegau ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig 
  • amrywiaeth o wahanol safbwyntiau a ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol 
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut maent yn cael eu portreadu 
  • y materion allweddol sy'n wynebu'r Byd Cymdeithasol 
  • sut mae cysylltiadau rhyngwladol wedi datblygu a thyfu yn ystod yr ugeinfed ganrif. 

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, cewch gyfle i astudio materion fel: 

  • damcaniaethau gwleidyddol  
  • amrywiaeth o wleidyddiaeth genedlaethol a rhanbarthol, megis Gwleidyddiaeth Prydain, Gwleidyddiaeth yr Ariannin, Gwleidyddiaeth yn Rwsia, yr UE, a'r gwledydd BRICS, yn ogystal â gwleidyddiaeth gymharol 
  • materion fel cenedlaetholdeb, datganoli, anghydraddoldeb byd-eang, amlddiwylliannaeth a gwleidyddiaeth iaith, rhywedd, a phoblyddiaeth mewn gwleidyddiaeth. 

Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir gorfodol i ddangos eich gwybodaeth annibynnol yn eich maes pwnc dewisol. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Rydym yn darparu'r radd hon trwy gyfrwng darlithoedd a seminarau. 

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng. Mae’r gemau argyfwng wedi’u seilio ar argyfyngau dyngarol, y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon, uchelgeisiau niwclear Iran, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, trychineb amgylcheddol yn yr Arctig, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Bydd y Gemau Argyfwng yn eich galluogi i ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig am y cyfyngiadau sydd ar arweinwyr gwleidyddol wrth iddynt ymateb i argyfyngau amrywiol. Heb os, dyma uchafbwynt y flwyddyn.

Asesu

Rydym yn asesu ein myfyrwyr trwy draethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, dyddiaduron dysgu a chyflwyniadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|