BA

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Cod L248 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae byd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gythryblus ac yn ddiddorol. Mae'r drefn fyd-eang yn cael ei hail-lunio gan wrthdaro, newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb cynyddol a heriau i rym y Gorllewin. A ninnau’n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, rydym wedi arloesi ym maes astudio gwleidyddiaeth fyd-eang ers dros gan mlynedd ac yn parhau i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf y byd.

Mae gradd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfle i astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanesion a’r rhanbarthau sy'n rhoi ffurf i wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol fel disgyblaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth? 

  • Rydym yn cynnig addysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar ystod eang o fodiwlau (tua ugain i ddewis ohonynt ym mlynyddoedd 2 a 3), amgylchedd sy'n ysgogol yn ddeallusol ond yn gyfeillgar, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. 
  • Byddwch yn dysgu am gysyniadau gwleidyddol allweddol megis pŵer, diogelwch, democratiaeth, datblygiad, rhyddid a sofraniaeth, a sut mae'r rhain yn cael eu herio mewn gwleidyddiaeth gyfoes o fewn gwledydd ac ar raddfa fyd-eang. 
  • Byddwch yn trin a thrafod gwahanol systemau gwleidyddol a sefydliadau byd-eang ac yn dysgu am y grymoedd y tu ôl i newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol ledled y byd. 
  • Byddwch yn astudio'r heriau craidd sy'n wynebu gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw, megis poblyddiaeth wleidyddol a thensiynau niwclear, yr argyfwng hinsawdd, gwaddolion trefedigaethol, gwrthdaro cynyddol a chyfyng-gyngor mudo. 
  • Byddwch hefyd yn dysgu am wahanol ranbarthau a gwledydd, megis cyfandiroedd America a Rwsia, Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol. 
  • Yn ogystal â mireinio eich sgiliau academaidd, bydd ein modiwlau yn rhoi ichi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol, megis ysgrifennu blogiau a briffiau polisi, rhoi cyflwyniadau a defnyddio eich creadigrwydd i ddatrys problemau. 
  • Rydym hyd yn oed yn cynnal modiwlau efelychu chwarae rôl bob blwyddyn sy'n datblygu sgiliau negodi, perswadio, cydweithredu a gweithio mewn tîm - yr union sgiliau sydd eu hangen yn y byd gwleidyddol. 
  • Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd, megis diplomyddiaeth, newyddiaduraeth, gwasanaeth sifil neu weithio i bleidiau gwleidyddol, cyrff anllywodraethol neu sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â dilyn llwybrau i raddedigion ym maes busnes, diwydiant, addysg a'r sector cyhoeddus. 
  • Yn ogystal, rydym yn cynnig nifer o fodiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae'r radd hon hefyd ar gael gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor (L249).

Cyfleoedd - Gall myfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth wneud y canlynol: 

  • Gwneud cais am le ar ein Cynllun Lleoliadau Seneddol: cyfle i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn dreulio interniaeth 3-4 wythnos o hyd yn gweithio ochr yn ochr ag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd.
  • Ymuno â'n 'Gemau Argyfwng' enwog – ymarfer chwarae rôl mewn symudiadau gwleidyddol a diplomyddol a gynhelir, ac un o uchafbwyntiau’r cwrs.
  • Treulio semester dramor yn astudio mewn nifer o leoliadau ar draws Gogledd America, Ewrop, ac Asia a’r Môr Tawel.
  • Cymryd rhan a theimlo'n rhan o gymuned yr Adran drwy weithgareddau fel y trafodaethau 'Bwrdd Crwn' rheolaidd ar ddigwyddiadau allweddol ledled y byd, gweithgareddau'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfnodolyn myfyrwyr Interstate, y Grŵp Amrywioldeb, a'n digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd. 
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein graddau’n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau.

Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, sy’n sicrhau bod galw mawr amdanynt.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith yn:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • ymchwil y Llywodraeth
  • ymchwil gymdeithasol
  • y Trydydd Sector, ee cyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Dysgu ac Addysgu

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i'r:

  • cysyniadau a'r themâu sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys safbwyntiau damcaniaethol allweddol, ac fe gei dy annog i'w dadansoddi a'u cloriannu
  • prif nodweddion sy'n sail i wleidyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain, gan astudio systemau gwleidyddol a thrafod syniadau a phynciau gwleidyddol pwysig
  • datblygiadau ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn, gyda'r pwyslais ar newyddion a safbwyntiau sy’n dod i'r amlwg o wythnos i wythnos yn ystod y semester a chyfle i adfyfyrio'n feirniadol ar ddigwyddiadau.

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau dewisol sy'n cynnwys pynciau megis rhyfel, heddwch a chwyldro ers 1789; globaleiddio a datblygu byd-eang; a rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Yn eich ail flwyddyn, cewch archwilio:

  • gwreiddiau'r disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad meddylfryd damcaniaethol, rôl edrych ar bethau mewn modd ddamcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o'r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol fel sail i ddeall prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol
  • ystod o gysyniadau a dadleuon allweddol ynghylch gwahanol bwerau gwleidyddol, a chanfod sut y mae'r rhain yn berthnasol i esiamplau o wleidyddiaeth ymarferol mewn gwahanol rannau o'r byd, gydag anghydraddoldeb gwleidyddol yn thema amlwg.

Yn y flwyddyn olaf, cewch eich cyflwyno i:

  • egwyddorion cyffredinol dulliau ymchwil, methodolegau a fframweithiau damcaniaethol i dy alluogi i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac i ysgrifennu dy draethawd estynedig.

Cewch hefyd astudio amrywiaeth o fodiwlau dewisol gan gynnwys pynciau megis datblygu byd-eang, rhyfeloedd masnach a'r drefn ryddfrydol, America Ladin gyfoes, cyfiawnder, trefn ac hawliau dynol, yr UE, y Dwyrain Canol yn yr ugeinfed ganrif, hanes milwrol UDA, cenedlaetholdeb, cudd-wybodaeth Rwsieg, Cynghrair y Cenhedloedd a'i etifeddiaeth, a therfysgaeth a gwrthderfysgaeth yn y byd modern.

Gweithgareddau allgyrsiol

Rydym yn eich annog i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef cwrs preswyl a gynhelir yn flynyddol y tu allan i Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi canolbwyntio ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgais niwclear Iran, yr etholiad i benodi arlywydd UDA, trychinebau amgylcheddol yn yr Arctig, a'r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia.

Bydd y Gemau Argyfwng yn gyfle ichi ddysgu am yr agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau - yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol wrth ymateb i wahanol argyfyngau. I lawer o'n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn cyflwyno'r radd hon drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|