BA

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Cod L248 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Ar y cwrs Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn archwilio tirwedd wleidyddol y gorffenol a'r presennol, gan ddysgu am y cysyniadau allweddol megis pŵer, democratiaeth, rhyddid, anghydraddoldeb, hawliau, dinasyddiaeth, cynrychiolaeth a chyfreithlondeb, a sut y caiff rhain eu herio yn y byd gwleidyddol gyfoes.

Byddwch yn ymchwilio i wahanol systemau gwleidyddol a sefydliadau byd-eang. Byddwch yn dysgu am y grymoedd sy'n gyrru newidiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol-gymdeithasol ledled y byd. Byddwch hefyd yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r system ryngwladol megis globaleiddio, diogelwch rhyngwladol, yr amgylchedd, anghydraddoldeb, iechyd byd-eang, gwrthdaro ac amgylcheddau yn dilyn rhyfel.

Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch yn astudio dadleuon gwleidyddol cyfoes megis dyfodol y Deyrnas Unedig wedi Brexit, heriau mudo modern, twf cenedlaetholdeb boblog a dyfodol democratiaeth, a'r ffyrdd y mae’r holl ffactorau hyn yn dylanwadu ar drawsnewid radical yn yr unfed ganrif ar hugain.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn trafod gwahanol ddadleuon, damcaniaethau ac esboniadau amgen ac yn datblygu sgiliau dadansoddol sydd mor bwysig yn y farchnad waith.

Dyma rai o'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth:

  • cymryd rhan yn ein 'Gemau Argyfwng' enwog - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy'n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlygu'ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio'n rhan o dîm, a datrys problemau
  • cymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol, sy'n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i gynnig ichi amgylchedd dysgu dynamig heb ei ail.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behind the Headlines IP12620 20
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd GW12420 20
Politics in the 21st Century IP12920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang GW12520 20
Globalization and Global Development IP12520 20
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 IP12820 20
War, Strategy and Intelligence IP10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline IQ22620 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
China From the Opium War to the Present IP29820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Gender, Conflict and Security IP26720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ27120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Race in Global Politics IQ20020 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian Security in the 21st Century IP21820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ20920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Long Shadow of the Second World War IP22720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline: IQ32620 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
China From the Opium War to the Present IP39820 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ37120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Race in Global Politics IQ30020 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian Security in the 21st Century IP31820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Long Shadow of the Second World War IP32720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae Cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein graddau'n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, sy'n sicrhau bod galw mawr amdanynt.

Dyma rai o'r sectorau lle mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith:

  • y sector datblygu
  • gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • y Trydydd Sector, ee cyrff anllywodraethol
  • sefydliadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth.

Dysgu ac Addysgu

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i'r:

  • cysyniadau a'r themâu sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys safbwyntiau damcaniaethol allweddol, ac fe gei dy annog i'w dadansoddi a'u cloriannu
  • prif nodweddion sy'n sail i wleidyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain, gan astudio systemau gwleidyddol a thrafod syniadau a phynciau gwleidyddol pwysig
  • datblygiadau ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn, gyda'r pwyslais ar newyddion a safbwyntiau sy’n dod i'r amlwg o wythnos i wythnos yn ystod y semester a chyfle i adfyfyrio'n feirniadol ar ddigwyddiadau.

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau dewisol sy'n cynnwys pynciau megis rhyfel, heddwch a chwyldro ers 1789; globaleiddio a datblygu byd-eang; a rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth.

Yn eich ail flwyddyn, cewch archwilio:

  • gwreiddiau'r disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad meddylfryd damcaniaethol, rôl edrych ar bethau mewn modd ddamcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o'r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol fel sail i ddeall prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol
  • ystod o gysyniadau a dadleuon allweddol ynghylch gwahanol bwerau gwleidyddol, a chanfod sut y mae'r rhain yn berthnasol i esiamplau o wleidyddiaeth ymarferol mewn gwahanol rannau o'r byd, gydag anghydraddoldeb gwleidyddol yn thema amlwg.

Yn y flwyddyn olaf, cewch eich cyflwyno i:

  • egwyddorion cyffredinol dulliau ymchwil, methodolegau a fframweithiau damcaniaethol i dy alluogi i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac i ysgrifennu dy draethawd estynedig.

Cewch hefyd astudio amrywiaeth o fodiwlau dewisol gan gynnwys pynciau megis datblygu byd-eang, rhyfeloedd masnach a'r drefn ryddfrydol, America Ladin gyfoes, cyfiawnder, trefn ac hawliau dynol, yr UE, y Dwyrain Canol yn yr ugeinfed ganrif, hanes milwrol UDA, cenedlaetholdeb, cudd-wybodaeth Rwsieg, Cynghrair y Cenhedloedd a'i etifeddiaeth, a therfysgaeth a gwrthderfysgaeth yn y byd modern.

Gweithgareddau allgyrsiol

Rydym yn eich annog i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef cwrs preswyl a gynhelir yn flynyddol y tu allan i Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi canolbwyntio ar argyfyngau dyngarol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, uchelgais niwclear Iran, yr etholiad i benodi arlywydd UDA, trychinebau amgylcheddol yn yr Arctig, a'r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia.

Bydd y Gemau Argyfwng yn gyfle ichi ddysgu am yr agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau - yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol wrth ymateb i wahanol argyfyngau. I lawer o'n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn cyflwyno'r radd hon drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Tiwtor Personol

Byddwn yn dynodi tiwtor personol ichi a fydd gyda chi drwy gydol eich cwrs gradd. Bydd eich tiwtor yno i'ch helpu i ddatrys unrhyw broblemau, boed rheini'n faterion academaidd neu bersonol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|