Strategaeth, Cudd-Wybodaeth a Diogelwch
BA Strategaeth, Cudd-Wybodaeth a Diogelwch Cod L252 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024
Prif Ffeithiau
L252-
Tariff UCAS
128 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
80%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMewn byd sy'n dod yn gynyddol gymhleth, cystadleuol a rhyng-gysylltiol, mae gweithredwyr rhyngwladol yn wynebu ystod o heriau diogelwch. Mae'r rhain yn cynnwys gwrthdaro rhwng gwladwriaethau ac o fewn gwladwriaethau, terfysgaeth ryngwladol, peryglon seiber, twf arfogaeth niwclear, pandemigau iechyd byd-eang, troseddau trawswladol, dadleoli poblogaethau, trychinebau naturiol a newid hinsawdd.
Bydd y cwrs BSc Astudiaethau Strategaeth, Cudd-Wybodaeth a Diogelwch yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio syniadau o astudiaethau strategol, cudd-wybodaeth a diogelwch i ddadansoddi'r heriau hyn o wahanol safbwyntiau, ac i archwilio ymatebion arloesol a chyfannol iddyn nhw.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2024
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd | GW12420 | 20 |
War, Strategy and Intelligence | IP10320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Behind the Headlines | IP12620 | 20 |
Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang | GW12520 | 20 |
Globalization and Global Development | IP12520 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Politics in the 21st Century | IP12920 | 20 |
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 | IP12820 | 20 |
Y Tu ôl i'r Penawdau | GW12620 | 20 |
Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle | CY11020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Strategy, Intelligence and Security in International Politics | IQ25120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig | GW30040 | 40 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 104
Safon Uwch ABB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|