BSc

Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth

Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth Cod LL32 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Wrth astudio am y radd mewn Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn dysgu am y dulliau cysyniadol a damcaniaethol a ddefnyddir gan gymdeithasegwyr i astudio’r byd. Ar yr un pryd bydd eich astudiaeth o’r byd gwleidyddol yn rhoi ichi wybodaeth am ddylanwadau gwleidyddol ar normau a phrosesau cymdeithasol, a fydd yn rhoi ffyrdd newydd i chi bwyso a mesur cysyniadau cymdeithasegol allweddol gan gynnwys hunaniaeth, integreiddio a gwrthdaro, yn ogystal â ffyrdd effeithiol o gyd-destunoli astudio ffurfiannau, prosesau ac ymddygiadau gwleidyddol. Bydd y dull unigryw o ddysgu cymdeithaseg a ddefnyddir yn Aberystwyth, dull seiliedig ar waith maes, yn eich arfogi â phrofiad uniongyrchol o amrywiaeth o ddulliau ymchwil cymdeithasegol yn ogystal â’ch hyfforddi i ddefnyddio technegau ymchwil archifol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Bydd y dull unigryw o ddysgu cymdeithaseg, dull seiliedig ar waith maes, yn gymorth i ddeall arwyddocâd gofod a lle wrth astudio ymddygiad gwleidyddol. 
  • Rydym yn tynnu ar ein cryfderau ymchwil i sicrhau eich bod yn elwa o ddirnadaethau damcaniaethol ac empirig arloesol o’r byd cymdeithasol a gwleidyddol a, thrwy’ch profiad dysgu, y gallwch fedi’r manteision cadarnhaol a ddaw o’r datblygiadau diweddaraf yn y ddwy ddisgyblaeth. 
  • Y Byddwch yn dysgu sut i werthuso syniadau, cysyniadau ac ymagweddau yn feirniadol o fewn meysydd cymdeithaseg a gwleidyddiaeth. 
  • Cewch eich dysgu a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig i chi. 
  • Byddwch yn ymuno ag Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, a sefydlwyd ym 1919. 
  • Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliad Seneddol o fri ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod o'r Senedd (Senedd Cymru, Caerdydd). 
  • Bydd modd i chi gymryd rhan yn ein Gemau Argyfwng - cwrs preswyl cyffrous a dramatig a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth lle byddwch yn chwarae rhan mewn senario gwleidyddol - gan eich galluogi i ddysgu am wleidyddiaeth ryngwladol o safbwynt unigryw drwy’ch rhoi’ch hunan yn y sefyllfa. 
  • Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol gwleidyddol drwy gyfrannu at y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr yn y DU, sef Interstate, sydd wedi'i leoli yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac a fydd yn weithgaredd allgyrsiol gwerth chweil a boddhaus. 
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Cementing Sociological Research GS20620 20
Genders and Sexualities GS20220 20
Sociological Research in the 'Field' GS21220 20
Sociological Theory GS25020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Everyday Social Worlds GS33320 20
Traethawd Estynedig Cymdeithaseg DA31240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dissertation IP30040 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ32920 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Justice, Order, Human Rights IQ31720 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP33320 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab-Israeli Wars IP31320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP30420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
Women and Global Development IP39620 20
Women and Military Service IP31620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi ymgorffori ym mhob un o’n cyrsiau ac mae ein rhaglenni gradd yn rhoi sylfaen gadarn i amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod eang o sectorau. Bydd graddedigion y radd BA Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth mewn sefyllfa dda i ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o feysydd megis y sector datblygu, llywodraeth leol a chenedlaethol, y gwasanaeth sifil, ymchwil ar ran y Llywodraeth ac ymchwil gymdeithasol, gwaith a pholisi cymdeithasol (gan gynnwys tai cymdeithasol cyhoeddus, gweinyddiaeth llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol), y trydydd sector megis cyrff anllywodraethol ac elusennau, gwaith mewn sefydliadau rhyngwladol, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduraeth, dysgu a rheoli. 

Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, byddwch yn gallu ymaddasu a manteisio ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau y bydd galw amdanoch bob amser yn y farchnad swyddi.  

Mae'r setiau o sgiliau yn cynnwys: 

  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth 
  • gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol: 

  • cysyniadau allweddol ac ymdriniaethau damcaniaethol mewn Cymdeithaseg 
  • damcaniaeth wleidyddol a syniadau gwleidyddol allweddol 
  • y berthynas rhwng unigolion, grwpiau a strwythurau cymdeithasol 
  • amrywioldeb ac anghydraddoldebau cymdeithasol 
  • prosesau sy'n rhoi sail i newid cymdeithasol 
  • y berthynas rhwng dadansoddi tystiolaeth a dadleuon cymdeithasegol 
  • y gwahanol fethodolegau a ddefnyddir i ddadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig 
  • problemau gwleidyddol cyfoes a sut maent yn cael eu portreadu. 

Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, byddwch yn adeiladu ar y damcaniaethau a ddysgwyd yn eich blwyddyn gyntaf ac yn ystyried: 

  • y syniadau mawr sydd wedi ysbrydoli'r gwyddorau cymdeithasol 
  • dulliau ymchwil ansoddol 
  • dadleuon allweddol am wahanol rymoedd gwleidyddol a chysylltiadau mewn gwahanol rannau o'r byd 
  • sut mae gwahaniaethau cymdeithasol-wleidyddol yn arwain at anghydraddoldeb ac anghyfiawnder 
  • gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn y DU ac Ewrop 
  • cenedlaetholdeb ac amlddiwylliannaeth. 

Sut fydda i’n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gwaith maes. 

Cewch eich asesu trwy draethodau, adroddiadau, dosbarthiadau ymarferol, gwaith maes, adolygiadau llyfrau, dyddiaduron dysgu, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn cynnwys ymchwil gymdeithasegol ar bwnc o'ch dewis eich hun. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|