LLB

Cyfraith Statws Uwch

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae gradd LLB Cyfraith Statws Uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael i’r rheini a chanddynt eisoes radd Baglor mewn pwnc arall. Lluniwyd y radd er mwyn gwella eich gobeithion o ran gyrfa drwy gwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd. Mae’r cwrs hwn, a ddysgir yn adran y gyfraith hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, yn heriol ac yn gyffrous. Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, byddwch yn elwa o brofiad a brwdfrydedd ein staff arbenigol. Mae llawer ohonynt wedi bod yn gyfreithwyr – gan roi gwedd ymarferol i’ch astudiaethau o ddamcaniaeth. Ethos Adran y Gyfraith a Throseddeg yw meithrin dyfeisgarwch a’ch gallu i feddwl y tu allan i’r bocs. Fe fyddwch felly ar ôl graddio yn gadael y brifysgol â galluoedd addas i’r byd go-iawn, a fydd yn llywio eich dyfodol a datblygiad eich gyrfa.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen radd LLB ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n cwmpasu nifer o bynciau traddodiadol a chyfoes yn y gyfraith, a bydd yn dysgu'r sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn eich gwneud yn 'barod am yrfa' ac yn gyflogadwy mewn cyd-destun cyfreithiol. 

Rhaglen ymarferol yw LLB Cyfraith Statws Uwch. Fe’i chynlluniwyd i ateb gofynion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Mae ein graddau LLB yn rhoi sylfaen ardderchog i'r rhai sy'n bwriadu cymhwyso'n gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. 

Mae LLB Cyfraith Statws Uwch yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, neu i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Yn ystod eich cwrs gradd, gallwch fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. Cewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli. Hefyd, i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law * LC23820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT20120 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Droseddeg CT22220 20
Introduction to Criminology LC22220 20
Law in Action LC23220 20
Y Gyfraith ar Waith CT23220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equity and Trusts * LC34920 20
European Law * LC30720 20
Land Law * LC34820 20
Public Law * LC30620 20
Contract Law * LC23820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT20120 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Community Justice LC30320 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT32220 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Empirically Based Criminology Dissertation LC30140 40
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Introduction to Criminology LC32220 20
Labour Law LC36820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychopathology LC39220 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Traethawd Estynedig Empeiraidd Troseddeg CT30140 40
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20
Law in Action LC23220 20
Y Gyfraith ar Waith CT23220 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd LLB Cyfraith Statws Uwch o Aberystwyth yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr, os mai dyna'r llwybr a ddewiswch. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog i chi ar gyfer pob math o feysydd gyrfaol eraill. Os oes gennych radd LLB Cyfraith Statws Uwch byddwch yn gallu cynnig llawer o sgiliau pwysig i gyflogwyr yn y dyfodol, a fydd yn agor cyfleoedd cyffrous o bob math mewn meysydd megis troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth, ac addysg. 

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi:

  • hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 
  • gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth 
  • gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym a chywir 
  • gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys gallu gweithio i derfynau amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 
  • gallu i weithio mewn tîm ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan roi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb 
  • sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau. 

Byddwch yn dysgu am y gofynion cyffredinol ar gyfer contract cyfreithiol dilys, yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a'r partïon i'r contract, ac yn astudio gwahanol agweddau ar delerau'r contract. Byddwch yn symud ymlaen i archwilio cyflawni a thorri contract, a'r rhwymedïau sydd ar gael.  

Cewch gyfle i ddeall ac archwilio'n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y trafodaethau a'r pynciau llosg sy'n gysylltiedig ag astudio cyfraith trosedd. Byddwch yn cael gwybod am yr egwyddorion cyfraith trosedd y mae’r rhan fwyaf o droseddau yn seiliedig arnynt, a'r meini prawf allweddol ar gyfer adnabod y troseddau mwyaf difrifol, megis lladdiad a throseddau rhywiol. 

Byddwch yn dysgu am sgiliau cyfreithiol ac ymchwil ac yn cael sylfaen drylwyr yn y sgiliau sydd eu hangen i astudio'r gyfraith, gan gynnwys dadansoddi beirniadol, eiriolaeth (gan ganolbwyntio’n benodol ar ymryson cyfreitha), darllen achosion, llunio nodiadau achos, darllen deddfwriaeth, ffynonellau cyfreithiol, defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, rhesymu cyfreithiol, ysgrifennu traethodau a phapurau cyfreithiol. 

Byddwch yn astudio elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cael trosolwg cynhwysfawr o’r system cyfiawnder troseddol. Byddwch hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio â’i gilydd. 

Byddwch yn archwilio egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da. 

Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau cyfreithiol. 

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddeunyddiau a methodolegau trefniadaeth gyfreithiol Ewropeaidd ac yn dysgu am brif nodweddion y cyfundrefnau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd.

Byddwch yn astudio’r Gyfraith Gyhoeddus, wedi'i rhannu'n gonfensiynol yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol gan nad oes ganddi gyfansoddiad wedi'i godeiddio. Bydd ystyried a yw hyn yn cael effaith yn ymarferol ac ystyried y ffordd mae'r Cyfansoddiad wedi addasu a darparu ar gyfer amgylchiadau cyfnewidiol yn themâu pwysig. 

Byddwch yn astudio Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, ac yn archwilio'r rhesymau niferus dros sefydlu Ymddiriedolaethau, yn ogystal â swyddogaeth ymddiriedolaethau wrth hyrwyddo polisi cyhoeddus, pwysigrwydd cynyddol ymddiriedolaethau mewn cyfraith fasnachol, y rhwymedïau ecwitïol sydd ar gael a’u swyddogaethau. 

Cewch eich cyflwyno i egwyddorion hanfodol Perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a’r hawliau a’r modd y gorfodir hawliau partïon eraill dros dir, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydlesai, y morgeisai, y cyfamodai, a pherchennog y rhandir trechaf i ddibenion caniatáu hawddfraint.

Hefyd, bydd modd i chi deilwra'ch astudiaeth trwy ddewis yn ofalus o blith nifer o fodiwlau dewisol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Gofynion Eraill Available to applicants who already hold an existing Bachelor’s degree (2:2 or equivalent) in another subject.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|