LLB

Cyfraith Ewropeaidd

Mae rheolaeth y gyfraith yn sylfaenol i gymdeithas deg a sifil, a gall astudio'r Gyfraith roi i chi’r gallu i wneud gwahaniaeth. Cyflwynir y cwrs gradd LLB Cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig rhaglenni gradd yn y Gyfraith. Mae rhai o'r cyfreithwyr, y gwleidyddion a’r academyddion mwyaf nodedig yng Nghymru, Prydain a thu hwnt wedi astudio yma. Gall ein gradd LLB Cyfraith Ewropeaidd gynnig gyrfa gyffrous ichi os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae'r gyfraith yn gweithredu ar lwyfan rhyngwladol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen radd LLB ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n cwmpasu nifer o bynciau traddodiadol a chyfoes yn y gyfraith, a bydd yn dysgu'r sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn eich gwneud yn 'barod am yrfa' ac yn gyflogadwy mewn cyd-destun cyfreithiol. 

Mae LLB Cyfraith Ewropeaidd yn rhaglen ymarferol yn y gyfraith a gynlluniwyd i ateb gofynion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y gyfraith, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth. 

Bydd modd i chi fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. 

Mae LLB Cyfraith Ewropeaidd yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys y cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, neu i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Cewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. Rydym hefyd yn cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa:

  • Mae eich gradd LLB mewn Cyfraith Ewropeaidd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i chi.
  • Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr
  • Mae eich gradd LLB y Gyfraith yn cynnig posibilrwydd i chi lwyddo mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys troseddeg, rheoli ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
  • y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu? 

Bydd ein gradd LLB Cyfraith Ewropeaidd yn rhoi cyfle i chi archwilio natur newidiol perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop, a'i datblygiad yn y dyfodol. Wrth i ni ddechrau gweld yr effeithiau a achosir gan Brexit, mae hwn yn amser cyffrous i astudio Cyfraith Ewropeaidd, gan gynnwys yr holl agweddau sy'n gysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd a'i phwerau deddfwriaethol.  

Ar y radd thematig hon, bydd y flwyddyn astudio gyntaf yr un peth â’r radd M100 LLB yn y Gyfraith a bydd yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio’n fwy penodol ar y thema dan sylw.  

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, er enghraifft: Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Camwedd, y mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eithriad rhag cam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddwch hefyd yn archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, astudio'r gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd, a dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut caiff ei dehongli gan farnwyr. 

Yn eich ail flwyddyn a'ch blynyddoedd olaf byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau cyfreithiol safonol gan ganolbwyntio ar gyfraith Ewropeaidd. 

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddeunyddiau a methodolegau trefniadaeth gyfreithiol Ewropeaidd ac yn dysgu am brif nodweddion y cyfundrefnau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal, byddwch yn archwilio agweddau eraill ar reoliadau cyfreithiol o fewn Ewrop, gan gynnwys, yn anad dim, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol.

Bydd hefyd modd i chi deilwra'ch astudiaethau drwy ddewis yn ofalus o blith ystod o fodiwlau dewisol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar ac o ansawdd uchel. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut y caf fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Crefft o drin geiriau yw'r gyfraith - arf wedi'i ategu gan sgiliau meddwl beirniadol wrth hyrwyddo neu amddiffyn pwynt neu ddadl, yn ogystal â dehongli ystyr gair neu derm penodol. Prydferthwch y gyfraith yw'r ffaith ei bod yn siapio cymdeithas i'r graddau bod ei heffaith yn ymestyn i gynnwys proffesiynau eraill megis meddygaeth, fferylliaeth, busnes ac ati. O ran iawnderau dynol, mae'r gyfraith yn arf sy'n rhoi mantais i rywun siarad a gweithredu'n ddi-ofn. Em Nian Yaw

Mae'r gyfraith yn bwnc heriol sy'n fy ymestyn bob dydd - a dyna'n union pam dw i'n ei fwynhau! Diolch i'r staff gwych a'r adnoddau helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae'r her wedi parhau i fod o fewn fy nghyrraedd. Mae Aberystwyth ei hun yn dref wych, yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Mae ganddi rywbeth i'w chynnig i bawb, a does unman gwell er mwyn gwneud ffrindiau agos. Mae'r dref yn hamddenol ac yn groesawgar iawn, a phan fydd hi'n braf, does unman gwell i fod. Andrew James Hall

Fe wnes i ddewis astudio gradd LLB y Gyfraith gan fy mod am fynd ymlaen i hyfforddi fel cyfreithiwr. Un o'r pethau gwych am y radd yw'r ystod eang o fodiwlau opsiynol y gallwch eu dewis, ac os nad ydyn nhw'n cael eu cynnig bob blwyddyn - sy'n wir am ambell un - maen nhw'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, felly rydych yn sicr o gael cyfle i astudio'r rhai rydych chi eisiau. Hefyd, mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd siarad â nhw, sy'n golygu y bydd unrhyw broblemau, materion neu gwestiynau sydd gennych yn cael eu hateb yn gyflym ac yn hawdd. Er bod y cwrs yn golygu llawer o waith caled, fel sy'n wir am unrhyw radd, mae'n werth chweil yn y pen draw, a byddwch yn siŵr o gael hwyl ac ennill profiad ar yr un pryd! Katie Jayne Mansell

Mae'r cyfuniad o gwrs gwych gyda thref hardd yn berffaith. Dw i wedi mwynhau astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth dros y tair blynedd diwethaf. Er ei fod wedi bod yn waith caled a blinedig, mae wedi bod yn wefreiddiol ac yn heriol hefyd. Mae'r holl ddarlithwyr, tiwtoriaid a staff yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar ac yn ymfalchïo yn yr adran a'r ffordd caiff modiwlau eu haddysgu. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gradd, felly does dim angen i chi fynd yn bell. Mae'r cwrs yn denu cymaint o wahanol bersonoliaethau a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ac mae treulio tair blynedd gyda nhw yn wych. Mae'r modiwlau'n cynnig dewis gwych. William Pryce

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|